Nod y safle yma yw helpu defnyddwyr Linux sydd am weithio trwy gyfrwng
y Gymraeg neu ieithoedd Celtaidd eraill. Does 'na ddim llawer o ddeunydd
fan hyn ar hyn o bryd. Bydd mwy yn y dyfodol agos, a'r nod yn y tymor byr
yw creu rhywbeth tebyg i euro-patch, ar gyfer y wyddor Geltaidd ISO8859-14.
Diweddariad ar gyfer creiddiau 2.2/2.3
Mae'r diweddariad wedi ei gynnwys yng nghreiddiau 2.2.12, 2.3.15, a'r
fersiynau ddaeth ar ôl hynny.
Mae'n gwneud y pethau canlynol:
- newid Config.in, nls_base.c a'r Makefile yn linux/fs/nls
- ychwanegu ffeil newydd, linux/fs/nls/nls_iso8859-14.c
- ychwanegu gwybodaeth at Documentation/Configure.help
Dim ond ar gyfer creiddiau yng nghyfresi 2.2 a 2.3 mae'r diweddariad isod:
bydd diweddariad ar gyfer cyfresi 2.0 a 2.1 yn ymddangos fan hyn cyn bo
hir.
Mae'r diweddariad ar gael fan hyn ar ffurf 'diff' unedig (unified diff):
kernel2.2.iso8859-14.diff.
Cysylltiadau
Yn Saesneg mae'r canlynol i gyd, ar wahan i'r un olaf ar y rhestr.