Gwobrau Tir na n-Og 2009

Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2009

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enwau enillwyr gwobrau Cymraeg Tir na n-Og o lwyfan Eisteddfod yr Urdd.

Cyflwynir y gwobrau am y llyfrau gorau i blant a phobl ifainc gan Gyngor Llyfrau Cymru. Noddir y gwobrau o £1,000 yr un gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth) a Cyngor Llyfrau Cymru ac fe'u cyflwynwyd i'r awduron mewn seremoni arbennig ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd.

Categori Cynradd

Enillydd y wobr yn y categori cynradd yw Bownsio, Emily Huws, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.

nanog2009_EmilyHuws

Nofel am Cadi, merch un ar ddeg oed yw Bownsio, Mae'n cael sioc pan sylweddola nad yw ei mam wedi marw a chaiff ei byd ei droi ben i waered. Dyma nofel sy'n ymdrin â gobeithion preifat a realiti bywyd go iawn.

Yn ôl y beirniaid, mae hon yn nofel sy'n torri tir newydd a llwyddodd yr awdur i drafod thema anodd mewn modd sensitif a gonest.

Athrawes wedi ymddeol yw Emily Huws ac mae'n byw yng Nghaeathro, Gwynedd. Mae'n awdur hynod o doreithiog ac wedi ennill gwobr Tir na n-Og bedair gwaith yn y gorffennol yn ogystal â derbyn Tlws Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad arbennig i faes llyfrau plant dros gyfnod o flynyddoedd.

Categori Uwchradd

Enillydd y wobr yn y categori uwchradd yw Lleucu Roberts am ei nofel Annwyl Smotyn Bach (Cyfres y Dderwen), Y Lolfa.

nanog2009_LleucuRoberts

Mae hon yn nofel rymus a heriol ar gyfer yr arddegau hŷn sy'n rhoi golwg arswydus ar dynged ein gwlad. Mam ofnus yw Llio, sy'n siarad â'r 'Smotyn bach' yn ei chroth, a thrwy gyfrwng ei dyddiadur, cawn gipolwg ar y Gymru newydd a'r tensiynau sydd rhyngddi hi a'i gŵr.

Yn ôl y beirniaid, mae hon yn nofel arloesol ac yn adleisio'r Gymru a ddisgrifiwyd yn Wythnos yng Nghymru Fydd, Islwyn Ffowc Elis.

Mae Lleucu Roberts yn enedigol o Landre, ger Aberystwyth, ond yn byw yn Rhostryfan gyda'i gŵr a phedwar o blant. Dyma'i thrydedd nofel, ond hon yw ei nofel gyntaf ar gyfer pobl ifanc.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: 'Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle i groesawu enillwyr Gwobrau Tir na n-Og i lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Mae awduron ac artistiaid llyfrau i blant a phobl ifanc yn gwneud cyfraniad pwysig i fywyd Cymru ac rydym yn falch o'u hanrhydeddu. 'Ry'n ni'n gobeithio y bydd plant a phobl ifanc sy'n dod i'r Eisteddfod yn mwynhau eu llyfrau.'

Ac meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau: 'Dyma'r man delfrydol i anrhydeddu awduron llyfrau Cymraeg i blant, ac rydym yn dra diolchgar i awdurdodau'r Urdd am ei gwneud hi'n bosibl i ni gyflwyno'r gwobrau i'r awduron buddugol ar lwyfan y Brifwyl, a hynny yng nghwmni cynifer o ddarllenwyr ifanc.'

Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2009

Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og am 2009, gwobr sy'n cydnabod safon arbennig llyfrau gyda chefndir Cymreig dilys iddynt i blant a phobl ifanc.

Enillydd y wobr Saesneg yw Graham Howells am ei gyfrol Merlin's Magical Creatures, Gomer/Pont. Cyfeirlyfr hynod ddiddorol sy'n disgrifio rhai o fodau a chymeriadau mwyaf enwog a thrawiadol byd chwedloniaeth.

nanog2009_GrahamHowells

Noddir y wobr gan CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru) ac fe'i cyflwynir i'r awdur yn ystod derbyniad yng nghynhadledd CILIP yn Llandrindod, Powys.

Ganed Graham Howells yn Antwerp yng ngwlad Belg. Roedd ei dad yn y fyddin ac o ganlyniad teithiai'r teulu o amgylch y byd gydag ef. Pan oedd yn ddeg oed symudodd y teulu i Ddoc Penfro, lle y mynychodd Ysgol Gyfun Bush. Mae bellach yn byw yn Llanelli.

Buan iawn yr ymdeimlodd â hud a lledrith Sir Benfro a phan aeth i Goleg Celf sylweddolodd ei fod yn gallu mynd â'r hud hwnnw gydag ef.

Mae arlunwaith Graham Howells yn gweddu i'r dim i fyd hud a lledrith ac mae ei ddisgrifiadau o fodau goruwchnaturiol chwedloniaeth Cymru yn gwbl hudolus.

Y llyfr cyntaf iddo ei ysgrifennu a'i ddarlunio oedd Merlin Awakes yn 2004. Bellach mae wedi ysgrifennu a darlunio nifer o gyfrolau, yn cynnwys:

Hiding Hopcyn, Captain Dan and the Ruby Ann, Fabulous Celtic Beasts, Rebecca's Daughter, Spellmakers, Stories of the Stones, Fairy Tales from Wales. Mae nifer o'i lyfrau wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg, gan gynnwys Creaduriaid Hud Myrddin Ddewin a Diwrnod i'r Dewin.

Dywedodd Graham Howells, 'Roedd yn fraint cael bod ar y rhestr fer gydag awduron fel Malachy Doyle a Simon Weston, ac roedd yn dipyn o sioc darganfod fy mod wedi ennill. Hud a lledrith yn wir.'

Meddai Menna Lloyd Williams, Pennaeth Adran Llyfrau Plant Cyngor Llyfrau Cymru, 'Roedd yna gynhaeaf toreithiog o lyfrau i'w hystyried a'r rheiny'n adlewyrchu safon uchel llyfrau plant yng Nghymru heddiw. Mae'r enillydd a'r cyhoeddwr i'w llongyfarch yn fawr iawn.'

Gwales

Llyfrau o Gymru ar-lein

gwales.com

Y Fasnach Lyfrau Ar-lein

Cronfa wybodaeth Cyngor Llyfrau Cymru i'r fasnach lyfrau

Y Fasnach Lyfrau Ar-lein