Hamburg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Hamburg

Dinas a talaith yng ngogledd yr Almaen yw Hamburg, neu yn Gymraeg Hambwrg neu Hambro.[1] Gyda phoblogaeth o 1.75 miliwn yn Rhagfyr 2005, hi yw ail ddinas fwyaf yr Almaen, ar ôl Berlin. Hamburg yw porthladd mwyaf yr Almaen, a'r ail-fwyaf yn Ewrop ar ôl Rotterdam.

Daw enw'r ddinas o'r adeilad cyntaf ar y safle, castell a adeiladwyd gan Siarlymaen yn 808. Daeth yn esgobaeth yn 834. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu bomio trwm ar y ddinas gan luoedd awyr Prydain a'r Unol Daleithiau, a lladdwyd tua 42,000 o'r trigolion.

[golygu] Adeiladau a chofadeiladau

  • Chilehaus
  • Deutsches Schauspielhaus
  • Elbphilharmonie
  • Köhlbrandbrücke (pont)
  • St.-Nikol*ai-Kirche (eglwys)
Y Deutsches Schauspielhaus yn Hamburg

[golygu] Pobl enwog o Hamburg

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 647 [Hamburg].
Flag Germany template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.