Dŵr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dŵr

Yr hylif mwya cyffredin ar y ddaear yw dŵr, gyda thua 70% o arwyneb y ddaear wedi ei gorchuddio gan yr hylif ar ffurf cefnforoedd, moroedd, afonydd, llynnoedd a'r pegynnau iâ.

Ocsigen a hydrogen yw'r cyfansoddyn hwn, gyda'r fformiwla gemegol: H2O. Dŵr wedi'i rewi yw ; ager yw anwedd dŵr.

Mae'r corff dynol yn cynnwys rhywle rhwng 55% a 78% o ddŵr, yn dibynnu ar faint y corff hwnnw.[1] I weithio'n iawn, mae'r corff angen rhwng un a saith litr o ddŵr pob dydd; mae'r union faint yn dibynnu ar sawl ffactor: pa mor weithgar yw'r corff, tymheredd y corff, lleithder yr amgylchedd o'i gwmpas ayb. Drwy fwyta ac yfed mae'r corff yn derbyn y dŵr hwn. Mae'r farn gyffredinol yn mynnu fod rhwng 6 - 7 gwydriad o ddŵr yn lleiafswm y dylid ei yfed.[2]

Priodweddau cemegol[golygu | golygu cod y dudalen]

Berwbwynt dŵr[golygu | golygu cod y dudalen]

Beth ydy berwbwynt dŵr? Yn anffodus - fel cymaint o ffeithiau gwyddonol mae’r ateb yn dibynnu ar eich safbwynt. Oherwydd gwasgedd isel yr awyr ar ben Mynydd Everest mae dŵr yn berwi ar ddim ond 70 gradd canradd. Dim gobaith am baned rhesymol o de yno, felly. Cyfeiria’r 100 gradd at wasgedd safonol awyr ar lefel y môr. Yn “Hafan Eryri”, caffi newydd yr Wyddfa, bydd tegell yn berwi ar tua 97 gradd. Ond beth os plymiwch i ddyfnderoedd y môr? Yno mae’r gwasgedd yn cynyddu’n sylweddol - tuag un atmosffer ar gyfer pob 10 metr. Mi fyddai paned wedi’i baratoi (a’i yfed) ar waelod pwll nofio Bangor yn mesur dros 110 gradd braf ! Dros y tair blynedd diwethaf mae tîm o Brifysgol Bremen wedi bod yn mesur tymheredd dŵr yn codi o simneiau folcanig 3 cilomedr o dan wyneb yr Iwerydd.[3] Yno daethant o hyd i’r dŵr poethaf a fesurwyd erioed - 464 gradd canradd. Ond ar wasgedd o 300 atmosffer mae pethau rhyfedd yn digwydd i ddŵr. Nid yw’n berwi, fel y cyfryw, ond yn gweddnewid yn ddi-dor o hylif i anwedd - nid oes “swigod”. Gelwir hwn yn hylif uwch-gritigol. Dyma’r tro cyntaf i’w gweld ar y ddaear y tu allan i’r labordy. Bydd dŵr uwch-gritigol yn ymdoddi mineralau a metalau - megis aur a haearn - o’r creigiau yn effeithiol iawn, a thybir mai dyma darddiad llawer o halwynau’r môr. Wedi dod o hyd i, ac astudio’r, simneiau hyn bydd modd dysgu llawer am y prosesau sy’n creu’r moroedd a chynnal y bywyd sydd ynddynt.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]



Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am dŵr
yn Wiciadur.