Arwynebedd
Oddi ar Wicipedia
Priodwedd meintiol yw arwynebedd sy'n mynegi maint rhan o arwyneb. Arwynebedd arwyneb yw swm arwynebeddau gwynebau allanol gwrthrych 3-dimensiwn.
Cynnwys
Unedau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r canlynol yn enghreifftiau o unedau arwynebedd:
- metr sgwâr = uned ddeilliedig SI
- ar = 100 metr sgwâr
- hectar = 10,000 metr sgwâr
- cilomedr sgwâr = 1,000,000 metr sgwâr
- megametr sgwâr = 1012 metr sgwâr
Unedau traddodiadol "Ymerodol", fel y'i diffinir eisioes o'r metr:
- troedfedd sgwâr = 0.09290304 metr sgwâr
- llathen sgwâr = 9 troedfedd sgwâr = 0.83612736 metr sgwâr
- erw = 43,560 troedfedd sgwâr = 4046.8564224 metr sgwâr
- milltir sgwâr = 640 erw = 2.5899881103 cilomedr sgwâr
Fformiwlau defnyddiol[golygu | golygu cod y dudalen]
Arwynebeddau gwrthrychau 2-dimensiwn[golygu | golygu cod y dudalen]
- Sgwâr neu betryal: h w (lle h yw'r hyd, ac w yw'r lled; mewn achos sgwâr, mae h = w).
- Cylch: (lle r yw'r radiws)
- Hirgrwn: (lle a a b yw'r echelinau lled-fwyaf a lled-leiaf)
- Unrhyw bolygon rheolaidd: (lle mae P = hyd y perimedr, ac a yw hyd apothem y polygon [y pellter o ganolbwynt y polygon i ganolbwynt un o'r ymylon])
- Paralelogram: (Y sail S yw hyd rhyw ymyl, a'r uchder u yw'r pellter rhwng y llinellau sy'n cynnwys yr ymylon sydd â hyd S)
- Trapesoid: (hydoedd yr ymylon paralel yw B a b, ac u yw'r pellter rhwng y llinellau sy'n cynnwys yr ymylon paralel)
- Triongl: (lle mae S yn unrhyw ymyl, ac u yw'r pellter rhwng y llinell sy'n cynnwys S i gornel arall y triongl). Gellir defnyddio'r fforwla hwn os wybyddir yr uchder u. Os gwybyddir hyd y tri ymyl, yna gellir defnyddio'r fformwla canlynol: (lle a, b, c yw hydoedd yr ymylon, ac yw hanner hyd ei berimedr)
- Mae'r arwynebedd rhwng graff dwy ffwythiant yn hafal i integreiddad un o ffwythiannau f(x), tynnu integreiddiad y ffwythiant arall, g(x).
- Yr arwynebedd a amgylchynir gan ffwythiant r = r(θ) â mynegwyd cyfesurynnau polar yw .
- Rhoddir yr arwynebedd a amgylchynir gan gromlin barametraidd â diweddbwyntiau gan integreiddiad llwybr
- neu cyfernod-z
Arwynebedd arwyneb siapiau 3-dimensiwn[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ciwb: , lle h yw hyd unrhyw ymyl
- Bocs petryalog: , lle dynoda h, w, ac u hyd, lled, ac uchder y bocs
- Sffêr: , π yw gymhareb hyd cylchyn a diamedr cylch, 3.14159..., ac r yw radiws y sffêr
- Sylindr: , lle r yw radiws y sail, ac u yw'r uchder
- Côn: , lle r yw radiws y sail, ac u yw'r uchder.