Dover
Oddi ar Wicipedia
Cyfesurynnau: 51°07′46″N 1°18′32″E / 51.1295°N 1.3089°E
Dover | |
Dover |
|
Poblogaeth | 28,156 |
---|---|
Swydd | Kent |
Rhanbarth | |
Gwlad | Lloegr |
Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
Tref bost | DOVER |
Cod deialu | +44 (0)1304 |
Yr Heddlu | |
Tân | |
Ambiwlans | |
Senedd yr Undeb Ewropeaidd | De Ddwyrain Lloegr |
Senedd y DU | Dover |
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr • |
Tref yng Nghaint yn ne-ddwyrain Lloegr yw Dover (neu Dofr). Mae'n enwog am ei chlogwyni gwyngalch - a wnaed yn enwog yn y gân "Bluebirds" gan Vera Lynn. Mae'r pellter byraf rhwng Prydain a Ffrainc rhwng Dover a Calais, pellter o tua 22 milltir, ac mae gwasanaeth fferi poblogaidd rhwng y ddwy borthladd. Yn Ffrangeg, gelwir y dref yn Douvres.
Mae Caerdydd 314.9 km i ffwrdd o Dover ac mae Llundain yn 107.7 km. Y ddinas agosaf ydy Caergaint sy'n 23.3 km i ffwrdd.
Dywedir fod y gair Saesneg Dover yn tarddu o'r hen Frythoneg "Dwfr" neu "ddŵr".
Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]
-
Panorama o Borth Dover