Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig
Elisabeth II (Elizabeth Alexandra Mary Windsor) (ganwyd 21 Ebrill 1926), Teitl Swyddogol :Elizabeth yr Ail, Brenhines, trwy Ras Duw, Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd yr Iwerddon a'i Theyrnasoedd a'i Thiriogaethau eraill, Pennaeth y Gymanwlad, Amddiffynnydd y Ffydd.
Yn ogystal â bod yn Frenhines Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, mae Elisabeth II yn Bennaeth Gwladwriaeth yng Nghanada, Awstralia, Seland Newydd, Jamaica, Barbados, Bahamas, Grenada, Papua Gini Newydd, Ynysoedd Solomon, Twfalw, Saint Lucia, Saint Vincent a'r Grenadines, Antigwa a Barbiwda, Belîs a Saint Kitts a Nevis, lle mae hi'n cael ei chynrychioli gan Lywodraethwr Cyffredinol. Mae hi hefyd yn Bennaeth y Gymanwlad.
Teitlau[golygu | golygu cod y dudalen]
'Brenhines Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Pennaeth Y Gymanwlad a Llwydrewog Eglwys Loegr' er marwolaeth ei thad Siôr VI ym 1952.
Cyfeirir ati yn arferol fel Ei Mawrhydi neu y Frenhines neu'r ddwy, ond mae gweriniaethwyr ac eraill ym Mhrydain nad ydynt yn cefnogi'r frenhiniaeth yn cyfeirio ati weithiau fel "Mrs Windsor." Yng Nghymru fe'i gelwir weithiau yn "yr hen Sidanes" ('Sidanes' oedd y llysenw Cymraeg, digon parchus, ar y frenhines Elisabeth I).
Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Elisabeth yw merch hynaf Y Tywysog Albert, Dug Efrog (yn hwyrach, Brenin Siôr VI) a'i wraig Elisabeth Bowes-Lyon. Ganwyd y Dywysoges Elisabeth ar y 21 Ebrill 1926 yn 17 Stryd Bruton, Mayfair, Llundain. Gafodd ei bedyddio yng ngapel preifat ym Palas Buckingham gan Cosmo Lang, Archesgob Efrog, ar [[29 Mai]. Ei rhieni bedydd oedd ei Nain a'i Thaid, Siôr V a Brenhines Mari, ei Modrybion y Dywysoges Mari a Lady Elphinstone, y Dywysog Arthur, Dug Connaught a Strathearn a'i nain (ar yr ochr ei fam) Cecilia Bowes-Lyon, Duges Strathmore a Kinghorne. Cafodd Elisabeth ei henw gan ei mam a'r Frenhines Alexandra a Brenhines Mari. Lilibet oedd Elisabeth yn cael ei galw ymysg ei theulu.
Fe fuodd Elisabeth yn agos i'w Thaid, Siôr V ac fe fuodd ei phresenoldeb yn help mawr iddo wella o'i salwch yn 1929. Ei chwaer oedd y Dywysoges Margaret a anwyd yn 1930. Cafodd y ddwy ohonyn nhw eu haddysg gartref gan Marion Crawford neu "Crawfie". Yn hwyrach, cyhoeddodd Marion Crawford fywgraffiad o fywydau'r chwiorydd yn y llyfr The Little Princesses. Roedd y llyfr yn sgandal ac nid oedd y teulu yn hapus. Mae'r llyfr yn fanwl ac yn disgrifio hoffter Elisabeth at geffylau a chŵn ac yn disgrifio ymhellach fod gan Elisabeth agwedd gyfrifol. Dywedodd llawer o bobol eraill yr un peth. Disgrifiodd Winston Churchill y Dywsoges Elisabeth fel "cymeriad. Mae mwy o awdurdod amdani." Roedd ei chyfnither Margaret Rhodes yn ei disgrifio hi fel "merch hapus, synhwyrol sy'n ymddwyn yn dda".
Fel wyres y Brenin trwy ei thad, fe fuodd Elisabeth yn Dywysoges Brydeinig. Cafodd ei galw yn gyfreithlon fel Ei Huchelwraig Frenhinol Y Dywysoges Elisabeth o Efrog. Fe fuodd yn drydydd yn llinell olyniaeth i'r goron, tu ôl ei ewythr Edward, Tywysog Cymru, a'i thad. Pan y ganwyd y Dywysoges Elisabeth, bu gan y cyfryngau ddiddordeb mawr ond nid oes unrhyw rheswm gredu y byddai'r Dywysoges Elisabeth yn Frenhines yn y dyfodol. Yn 1936, bu'r Brenin Siôr V farw. Yn hwyrach yn y flwyddyn ymddiswyddodd y Brenin newydd fel Brenin ac aeth Elisabeth yn gyntaf yn llinell olyniaeth i'r goron. Newidwyd teitl y Dywysoges i "Ei Uchelwraig Frenhinol Y Dywysoges Elisabeth".
Plant[golygu | golygu cod y dudalen]
- Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru (Charles Philip Arthur George) (ganwyd 1948)
- Y Dywysoges Anne, Y Dywysoges Frenhinol (Anne Elizabeth Alice Louise) (ganwyd 1950)
- Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog (Andrew Albert Christian Edward) (ganwyd 1960)
- Y Tywysog Edward, Iarll Wessex (Edward Anthony Richard Louis) (ganwyd 1964)
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhagflaenydd: Siôr VI |
Brenhines y Deyrnas Unedig 6 Chwefror 1952 – |
Olynydd: delliad |
Brenhinoedd a breninesau Prydain Fawr a'r Deyrnas Unedig |
Teyrnas Prydain Fawr: Anne | Siôr I | Siôr II | Siôr III |
|