Mynegai Datblygiad Dynol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r byd yn dangos Indecs Datblygiad Dynol (2004).      uchel (0.800–1)     canolig (0.500–0.799)     isel (0.300–0.499)     manylion dim ar gael

Mae'r Mynegai Datblygiad Dynol yn mesur disgwyliad bywyd, llythrennedd, addysg a safon byw yng ngwledydd y byd. Datblygwyd y mesur yma yn 1990 gan Amartya Sen o India a Mahbub ul Haq o Bacistan.

Cyhoeddwyd yr adroddiad yn Ne Affrica ar 9 Tachwedd 2006. Roedd yn dangos gwelliant yn y gwledydd datblygedig ond dirywiad mewn llawer o wledydd sy'n datblygu.

Mae sgôr dan 0.5 yn dangos lefel isel o ddatblygiad. O'r 31 gwlad yn y categori yma, mae 29 yn Affrica; yr eithriadau yw Haiti a Yemen. Mae sgôr o 0.8 neu fwy yn dangos gwlad sydd a lefel uchel o ddatblygiad. Norwy oedd ar y brig yn 2006.