Hwngari

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Magyar Köztársaság
Gweriniaeth Hwngari
Baner Hwngari Arfbais Hwngari
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: Isten, áldd meg a magyart
(Cymraeg: Duw, bendithio'r Hwngarwyr)
Lleoliad Hwngari
Prifddinas Budapest
Dinas fwyaf Budapest
Iaith / Ieithoedd swyddogol Hwngareg
Llywodraeth Gweriniaeth
Arlywydd László Kövér (dros dro)
Prif Weinidog Viktor Orbán
Annibyniaeth
 • Tywysogaeth Hwngari
 • Teyrnas Hwngari
 • Diddymu Awstria-Hwngari

896
Rhagfyr 1000
1918
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
93,030 km² (109fed)
0.74
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
10,076,581 (79fed)
10,198,315
109/km² (92fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$169.875 biliwn (48fed)
$17,405 (40fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.869 (uchel) – 35fed
Arian cyfred Forint (HUF)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .hu1
Côd ffôn +36
1 hefyd .eu

Gweriniaeth heb arfordir yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Hwngari neu Hwngari. Mae Slofacia i'r gogledd; Wcrain i'r gogledd-ddwyrain; Rwmania i'r dwyrain; Serbia, Croatia a Slofenia i'r de; ac Awstria i'r gorllewin. Mae'r Hwngariaid yn galw eu hunain yn Magyar (Magyarország).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Hwngari

Llwyth y Magyar a ymsefydlodd Hwngari fel gwlad a chenedl yn y 9fed ganrif. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hi'n rhan o'r Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd ac yn gynghreiriad i'r Almaen. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ymwahanodd Awstria a Hwngari i fod yn wledydd annibynnol. Yn 1919 ffurfiwyd Gweriniaeth Sofietaidd Hwngari, a'i harweinydd oedd Béla Kun. Ond byr fu ei pharhad oherwydd trechodd lluoedd arfog Rwmania y weriniaeth Sofietaidd yn 1919 a newidiwyd y llywodraeth.

Yn yr Ail Ryfel Byd roedd Hwngari yn gynghreiriad i'r Almaen unwaith yn rhagor a'r Natsiaid a reolai'r wlad.

Ar ôl y rhyfel collodd Hwngari y diriogaeth ychwanegol a roddwyd iddi gan yr Almaen. Yn 1949 troes Hwngari yn weriniaeth "ddemocrataidd" gyda llywodraeth gomiwnyddol. Yn 1956, bu gwrthryfel mawr yn erbyn comiwnyddiaeth ond ymyrodd yr Undeb Sofietaidd gyda tanciau. Roedd hi dan gomiwnyddiaeth rhwng 1945 - 1989. Roedd Hwngari yn aelod o Gytundeb Warsaw o'r 1950au hyd y 1990au.

Heddiw mae hi'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd a phleidleisiodd o blaid Cyfansoddiad Ewrop yn 2005/2006.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Hwngari

Arlywydd Hwngari yw arweinydd y wlad a'r Prif Weinidog sy'n arwain Senedd Hwngari ym Mwdapest.

Siroedd Hwngari[golygu | golygu cod y dudalen]

Siroedd Hwngari a'u prifddinasoedd

  • Bács-Kiskun (Kecskemét)
  • Baranya (Pécs)
  • Békés (Békéscsaba)
  • Borsod-Abaúj-Zemplén (Miskolc)
  • Csongrád (Szeged)
  • Fejér (Székesfehérvár)
  • Győr-Moson-Sopron (Győr)
  • Hajdú-Bihar (Debrecen)
  • Heves (Eger)
  • Jász-Nagykun-Szolnok (Szolnok)
  • Komárom-Esztergom (Tatabánya)
  • Nógrád (Salgótarján)
  • Pest (Budapest)
  • Somogy (Kaposvár)
  • Szabolcs-Szatmár-Bereg (Nyíregyháza)
  • Tolna (Szekszárd)
  • Vas (Szombathely)
  • Veszprém (Veszprém)
  • Zala (Zalaegerszeg)

Siroedd Trefol

  • Békéscsaba
  • Debrecen
  • Dunaújváros
  • Eger
  • Győr
  • Hódmezővásárhely
  • Kaposvár
  • Kecskemét
  • Miskolc
  • Nagykanizsa
  • Nyíregyháza
  • Pécs
  • Salgótarján
  • Sopron
  • Szeged
  • Székesfehérvár
  • Szekszárd
  • Szolnok
  • Szombathely
  • Tatabánya
  • Veszprém
  • Zalaegerszeg

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Hwngari yn wastad gan bennaf. Mae'r Afon Donaw yn ffurfio rhan o ffin gogledd-orllewinol Hwngari gyda Slofacia, ac yna'n llifo i'r de drwy Budapest, gan rannu Hwngari yn ddau ranbarth cyffredinol. Ym mis Hydref 2001 cafodd pont olaf y Donaw a ddinistriwyd yn yr Ail Ryfel Byd ei hailagor gan Brif Weinidog Slofacia a Phrif Weinidog Hwngari a'r Comisiynydd Ewropeaidd Günter Verheugen. Cydariannwyd ailgodi'r bont gan raglen Phare yr UE gyda €10 miliwn. Budapest, y ddinas fwyaf yw'r brifddinas a hefyd yn ganolfan ddiwylliannol, economaidd a ddiwydiannol Hwngari. Mae'r wlad yn llawn trefi baroc hardd, adeiladau canoloesol, ffynhonnau thermol a thros fil o lynnoedd. Mae gan Hwngari aeafau oer iawn a hafau cynnes iawn, gyda gwanwyn a hydref mwyn.

Amgylchedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Parc Cenedlaethol Hortobágy yw mecca adara Ewrop a'r lle i ganfod Ceiliog y Waun - un o adar mwyaf y byd.

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Proffil ethnig:Hwngariaid (96.6%) - 13 lleiafrif a gydnabyddir ac a gofrestrwyd yn swyddogol: Almaenwyr, Sipsiwn, Croatiaid, Slofaciaid, Rwmaniaid, Bwlgariaid, Groegwyr, Pwyliaid, Armeniaid, Rutheniaid, Serbiaid, Wcrainiaid, Slofeniaid - a ddiogelir yn arbennig yn y Cyfansoddiad - fel cydran o wladwriaeth Hwngari; hawl i gynrychiolaeth yn y Senedd wedi ei goleddu yn y Cyfansoddiad ac yn Neddf Lleiafrifoedd 1993.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Hwngari oedd mamwlad Franz Liszt, Béla Bartók a Zoltán Kodály, a ysbrydolwyd gan y traddodiadau gwerin cenedlaethol cyfoethog. Yn y 19eg ganrif cynhyrchodd Hwngari ei gyfansoddwr brodorol pwysig cyntaf, Ferenc Erkel, a gyfansoddodd anthem genedlaethol Hwngari a'r opera Hwngaraidd gyntaf. Mae Hwngari yn wlad gerddorol iawn; mae ei chwaraewyr fiolin a phiano yn adnabyddus yn fyd-eang. Mae gan Hwngari mwy na 5000 o lyfrgelloedd cyhoeddus a mwy na 100 o amgueddfeydd cyhoeddus ledled y wlad. Cenedl bron di-Saesneg yw Hwngari o hyd, a di-Almaeneg. Dan y Sofietwyr roedd hi'n fraint i bob plentyn methu ei gwrs Rwsieg yn llwyr.

Bwyd a diod[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae danteithion lleol yn cynnwys halaszle (cawl pysgod), goulash, jokai bableves (cawl ffa) a hideg gyumolcsleves (cawl ceirios oer). Cynhyrchir cwrw da a brandi cryf yn y wlad.

Hwngari hoyw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Hwngari sin hoyw cynhenid, gellir clywed actiau drag ar lwyfan yn canu a pherfformio yn Hwngareg yn lle y trosleisio caneuon Saesneg a geir yn aml dros Ewrop. Sin hoyw ar gyfer Hwngariaid ydyw, dim fel ym Mhrag lle mae'r diwidiant rhyw yn dominyddu.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyn o Hwngari oedd László Bíró, dyfeisydd yr ysgrifbin.

Cysylltiad allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Hwngari
yn Wiciadur.