Karl Marx
Athronydd gwleidyddol, economegydd, a damcaniaethwr cymdeithasol dylanwadol Almaenig o dras Iddewig oedd Karl Heinrich Marx (5 Mai 1818 – 14 Mawrth 1883). Er iddo drafod nifer o bynciau yn ei yrfa fel newyddiadurwr ac athronydd, y mae mwyaf enwog am ei ddadansoddiad o hanes yn nhermau gwrthdaro dosbarth. Crynhoir ei athroniaeth gan yr honiad bod diddordeb cyfalafwyr a gweithwyr cyflogedig yn gwbwl groes i'w gilydd. Ei waith enwocaf yw Das Kapital, sy'n dadansoddi cyfalafiaeth y 19eg ganrif; fe'i ystyrir yn destun sylfaenol Comiwnyddiaeth a Marcsiaeth. Cydweithiodd Marx ar ddarnau o'i waith gyda'r diwydiannwr Friedrich Engels, Almaenwr arall a gefnogodd Marx yn ariannol a helpodd golygu Das Kapital. Gydag ef ysgrifennodd Marx Y Maniffesto Comiwnyddol yn 1848, un o'r llawysgrifau gwleidyddol mwyaf dylanwadol erioed.
Ar ôl darllen am gyfraith Hywel Dda a'r hawliau a roddodd i fenywod, nododd Marx am y Cymry: "Tipyn o fechgyn, y Celtiaid hyn. Ond dilechdidwyr o'u genedigaeth, gan gyfansoddi popeth mewn triadau."[1]