Poblogaeth
Oddi ar Wicipedia
Poblogaeth yw'r nifer o bobl sy'n byw mewn man penodol megis gwlad, tref neu ardal. Ceir poblogaeth fawr lle mae adnoddau da, ac ond ychydig o bobl mewn ardal heb lawer o adnoddau. Gall pobl ddim byw er enghraifft yng nghanol y Sahara neu Antarctica.
Gall poblogaeth gynyddu pan fo mwy o bobl yn mewnfudo i rywle nag sydd yn allfudo. Gall hefyd gynyddu oherwydd twf naturiol, sef bod mwy yn cael eu geni nag sydd yn marw, ac fel arall wrth gwrs.
Mae poblogaeth y byd yn tyfu'n gyflym iawn.
Poblogaeth Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1770 roedd tua hanner miliwn yn byw yng Nghymru. Erbyn 1850 roedd wedi dyblu i dros filiwn. Mae wedi mwy na dyblu eto erbyn 1914 gyda 2,523,500 o bobl yn byw yng Nghymru