Rhanbarth Brwsel-Prifddinas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Rhanbarth Brwsel-Prifddinas

Rhanbarth o Wlad Belg yw Rhanbarth Brwsel-Prifddinas (Ffrangeg: Région de Bruxelles-Capitale, Iseldireg: Brussels Hoofdstedelijk Gewest). Mae'n llawer llai na'r ddau ranbarth arall, Fflandrys a Walonia, gydag arwynebedd o 161 km², sef yr ardal o amgylch dinas Brwsel. Roedd y boblogaeth yn 1,104,346 yn 2010.

Mae Rhanbarth Brwsel-Prifddinas yn cael ei hamgylchynu gan dalaith Brabant Fflandrysaidd, un o daleithiau Fflandrys. Mae'r rhanbarth yn swyddogol ddwyieithog, Ffrangeg ac Iseldireg. Amcangyfrir fod 60 - 65% o'r boblogaeth yn siarad Ffrangeg fel iaith gyntaf a 10 - 15% yn siarad Iseldireg fel iaith gyntaf; gyda'r gweddill yn dramorwyr sydd fel rheol yn medru Ffrangeg.

Cyswllt allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

www.brussels.irisnet.be