Guiana Ffrengig
Un o départements Ffrainc yw Gaiana, yn aml Guiana Ffrengig,[1] ond "Guyane" yw'r enw swyddogol, y sillafiad Ffrengig. Mae'n un o'r départements tramor (Ffrangeg: départements d'outre mer), a ffurfiwyd o ymerodraeth Ffrainc. Yn ogystal mae'n un o ranbarthau tramor Ffrainc. Saif ar arfordir gogleddol De America, yn ffinio ar Swriname yn y gorllewin ac ar Brasil yn y dwyrain. Prifddinas y département yw Cayenne.
Fel y gweddill o'r départements tramor, mae'n mwynhau statws yn un fath a Ffrainc fetropolaidd ac yn rhan o Ffrainc a'r Undeb Ewropeaidd, er bod rheolau arbennig yr UE yn gymwys. Mae hefyd yn ardal o Ffrainc ar yr un pryd.
Gorchuddir 96% o Guiana Ffrengig gan fforest law drofannol, a warchodir gan barc cenedlaethol newydd a chwech gwarchodfa natur.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 74.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Ffrangeg) Gwefan Prefecture Guyane
- (Ffrangeg) Gwefan Rhanbarth Guyane
- (Ffrangeg) Gwefan Departement Guyane