Jena
Oddi ar Wicipedia
Dinas hanesyddol yn yr Almaen yw Jena. Mae'n gorwedd ar lan afon Saale yn nhalaith ffederal Thüringen. Gyda phoblogaeth o 103,000 dyma dinas ail fwyaf Thüringen, ar ôl y brifddinas, Erfurt.
Mae'n adnabyddus ym myd ysgolheictod fel cartref Prifysgol Jena (Almaeneg: Friedrich-Schiller-Universität Jena), a sefydlwyd yn 1558. Mae ei chyn-fyfyrwyr yn cynnwys Gottfried Leibniz a Karl Marx.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
- (Almaeneg)(Saesneg) Gwefan swyddogol Jena