Baner Rwsia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Rwsia

Mae baner Rwsia yn faner drilliw: gwyn ar y top, glas yn y canol a choch ar y gwaelod.

Hanes y faner[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r faner yn dyddio o leiaf i 1667 fel baner lyngesol a milwrol, ac fe'i mabwysiadwyd fel lluman llyngesol yn 1705. Dywedir i Bedr Fawr gymryd lliwiau baner yr Iseldiroedd, glas, gwyn ac oren neu goch, fel sylfaen i ddyluniad y faner, ond mae hyn yn anhebyg, gan i'r faner ymddangos ar longau Rwsiaidd cyn ymweliad Pedr â'r Iseldiroedd yn 1699. Rhoddwyd caniatâd iddi gael ei ddefnyddio ar dir yn 1883, ond dim ond â choroni Niclas II yn 1896 y daeth hi'n faner wladwriaethol neu swyddogol. Ar ôl Chwyldro Hydref 1917, diddymwyd y faner drilliw, a defnyddiwyd addasiadau o faner goch yr Undeb Sofietaidd ('Y Morthwyl a Chryman') fel baner Gweriniaeth Rwsia (RSFSR). Yn 1954 cyflwynwyd dyluniad newydd â stribedyn glas ar hyd ochr chwith y faner Sofietaidd. Ailgyflwynwyd y faner drilliw ar 22 Awst 1991 ar ôl cwymp y gyfundrefn Gomiwnyddol.

Baner Gweriniaeth Rwsia (RSFSR) rhwng 1954 a 1991

Creodd Pedr Fawr faner arall dros Rwsia, sef baner Croes Sant Andreas, croes letraws las ar gefndir gwyn, hynny yw, gwrthwyneb baner yr Alban. Defnyddiwyd y faner hon fel amrywiaeth ar faner Rwsia, ac fe'i defnyddir o hyd fel baner Llynges Rwsia.

Croes Sant Andreas, Lluman Llynges Rwsia

Dylanwad ar faneri gwledydd eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddir tri lliw baner Rwsia fel y lliwiau pan-Slafaidd, ac fe'u defnyddir felly ar faneri nifer o wledydd Slafaidd eraill megis Serbia, Slofenia, Croatia, y Weriniaeth Tsiec a Slofacia. Mae lliwiau baner Rwsia hefyd wedi dylanwadu ar ddyluniad baner Bwlgaria: yr un yw baner Bwlgaria â baner Rwsia ond i faner Bwlgaria ddisodli'r stribedyn glas ag un gwyrdd.