Y Môr Canoldir

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Môr Canoldir
Llun lloeren cyfansawdd o'r Môr Canoldir

Môr rhwng Ewrop, Asia ac Affrica yw'r Môr Canoldir (2.5 miliwn km²). Cafodd ei enw o'r Lladin mediterraneus (medius, 'canol' + terra, 'tir'), ond roedd y Rhufeiniaid yn ei alw yn Mare Nostrum, sef 'ein môr ni'.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Culfor Gibraltar yn cysylltu'r Môr Canoldir â'r Môr Iwerydd yn y gorllewin ac mae Môr Marmara, y Dardanelles a'r Bosphorus yn ei gysylltu â'r Môr Du yn y dwyrain. Mae Môr Marmara yn ran o'r Môr Canoldir ym marn rhai pobl. Yn y de-ddwyrain mae Camlas Suez yn cysylltu'r Môr Canoldir a'r Môr Coch. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd yn y Môr Canoldir (gweler isod), yn arbennig yn y gogledd-ddwyrain rhwng Asia Leiaf a Gwlad Groeg.

Hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hinsawdd arbennig o amgylch y Môr Canoldir, a nodweddir gan aeafau byr a chymhedrol ar y cyfan a hafau poeth, er ei bod yn amrywio o wlad i wlad o gwmpas y môr.

Ynysoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ynysoedd mawr y Môr Canoldir yn cynnwys:

Yn y Môr Aegeaidd ceir nifer mawr o ynysoedd llai a'r rhan fwyaf yn perthyn i Wlad Groeg.

Gwledydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Y gwledydd sydd ar lannau y Môr Canoldir yw:


Gwledydd y Môr Canoldir
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci