Croatia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Republika Hrvatska
Gweriniaeth Croatia
Baner Croatia Arfbais Croatia
Baner Arfbais
Arwyddair: Dim
Anthem: Lijepa naša domovino
Lleoliad Croatia
Prifddinas Zagreb
Dinas fwyaf Zagreb
Iaith / Ieithoedd swyddogol Croateg 1
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Kolinda Grabar-Kitarović
Zoran Milanović
Annibyniaeth
 • Cydnabuwyd
gan Iwgoslafia
25 Mehefin 1991
Esgyniad i'r UE 1 Gorffennaf 2013
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
56,542 km² (124fed)
0.01
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
4,437,460 (14fed)
4,551,000
83/km² (116fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$55.638 biliwn (72fed)
$12,364 (56fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.841 (45fed) – uchel
Arian cyfred Kuna (kn) (HRK)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .hr
Côd ffôn +385
1 Hefyd Eidaleg yn Swydd Istria.

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop ar lan y Môr Canoldir yw Gweriniaeth Croatia neu Croatia (Croateg: Loudspeaker.svg Republika Hrvatska ?/i ). Roedd hi'n ran o'r hen Iwgoslafia gynt. Mae'n gorwedd yn y Balcanau gan ffinio â Slofenia, Hwngari, Serbia a Bosnia a Hertsegofina. Y brifddinas yw Zagreb.

Daearyddiaeth Croatia[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Croatia

Hanes Croatia[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Croatia

Credir fod hanes Croatia yn cychwyn gyda'r Illyriaid ac mai nhw oedd trigolion gwreiddiol y tir cyn i'r Ymerodraeth Rufeinig goresgyn a gwladychu Croatia. Ymsefydlodd llwyth Celtaidd y Boii yn Pannonia cyn diwedd y mileniwn cyntaf cyn Crist. Sefydlwyd talaith Illyria gan y Rhufeinwyr yn y ganrif gyntaf cyn Crist. Mae prif ddinasoedd yr arfordir fel Pula, Split a Dubrovnic i gyd yn hen iawn. Dalmatia a Pannonia oedd yr enw ar y ddwy ran o'r wlad. Y dystiolaeth amlycaf am eu presenoldeb yw Palas Diocletian yn Split (300 OC) a'r amffitheatr fawr yn Pula.

Cyrhaeddodd y Croatiaid (llwyth Slafaidd) yn heddychol fel milwyr hur i'r Rhufeinwyr o'r seithfed ganrif ymlaen mewn gwlad o ddiboblogwyd gan y "barbariaid". Erbyn 820 roedd Dugaeth Croatia yn unedig dan Vladislav; parhaodd rhai o drefi'r arfordir i siarad Lladin ac wedyn Eidaleg am ganrifoedd. Y brenin cyntaf oedd Tomislav, a goronwyd yn 925.

Roedd y wlad yn annibynnol tan 1089 pan ddaeth yn rhan o deyrnas Hwngari - ond gyda senedd (Sabor) annibynnol. Er gwaethaf ymyrraeth Fenis, y Mongoliaid a'r Croesgadwyr, parhaodd dominyddiaeth yr Hwngariaid tan 1526. Erbyn brwydr Mohacs yn 1526 roedd y rhan fwyaf o'r wlad yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid.

Ymateb syml senedd y Croatiaid oedd derbyn Archddug Ferdinand o Awstria fel brenin yn 1527, a wthiodd yr Otomaniaid yn ôl yn ystod y ganrif ganlynol. Rhoddodd yr Habsbwrgiaid Croatia yn hanner "Hwngaraidd" eu hymerodraeth, a hynny erbyn 1699.

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ffurfwyd Iwgoslafia yn 1918, a bu Croatia dan awdurdod Beograd am y tro cyntaf. Rhoes yr Ail Ryfel Byd rym i'r Ustase, (mudiad ffasgaidd lleol) o dan y Natsïaid, ac wedi'r rhyfel cafwyd rheolaeth dan Tito a'r Comiwnyddion am 45 mlynedd.

Yn 1991, ar ôl naw ganrif dan reolaeth ei chymdogion, daeth Croatia yn wlad annibynnol eto. Croesawyd y genedl newydd gan bedair blynedd o ryfel, cyflafanau, a dros chwarter miliwn o ffoaduriaid. Erbyn 2010 mmae'r wlad wedi paratoi a moderneiddio i'r fath raddau fel bod Undeb Ewrop wedi ei derbyn fel darpar aelod.

Mae Croatia rwan yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, NATO, Sefydliad Masnach y Byd (WTO), a'r Undeb Ewropeaidd.

Gwleidyddiaeth Croatia[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Croatia

Diwylliant Croatia[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Croatia

Economi Croatia[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Croatia


Gwledydd y Môr Canoldir
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci
Flag of Croatia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Croatia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato