Mdina a Rabat (Malta)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Malta Mdina BW 2011-10-05 12-41-38.JPG
Ceir sawl enghraifft arall o'r enw lle Medina - gweler Medina (gwahaniaethu)

Hen brifddinas Malta yw Mdina ers yr oesoedd cynhanesyddol hyd at 1568. (Valletta yw'r prifddinas heddiw). Mae Mdina yn hen ddinas o fewn muriau ar fryn yn nghanol ynys Malta. Ystyr mdina ym Malteg (ac yn Arabeg) yw "hen dref".

Yn agos iawn ac ychydig bach i'r de mae dinas Rabat. Ystyr rabat ym Malteg (ac yn Arabeg) yw "caer" neu "ddinas gaerog". Yn Rabat mae'r ogof lle gafodd Sant Paul ei gaethiwo gan y Rhufeiniaid ar ôl ei longddrylliad ar yr ynys yn y flwyddyn O.C. 60. Mae eglwys gadeiriol St. Paul yn Mdina a St. Paul yw enw'r eglwys yn nghanol Rabat hefyd.

Flag of Malta.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Falta. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato