Portiwgal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
República Portuguesa
Gweriniaeth Bortiwgalaidd
Baner Portiwgal Arfbais Portiwgal
Baner Arfbais
Arwyddair: dim
Anthem: A Portuguesa
Lleoliad Portiwgal
Prifddinas Lisbon
Dinas fwyaf Lisbon
Iaith / Ieithoedd swyddogol Portiwgaleg 1
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Aníbal Cavaco Silva
Pedro Passos Coelho
Ffurfiant
 •Annibyniaeth
 •Cydnabuwyd
868
24 Mehefin 1128
5 Hydref 1143
Esgyniad i'r UE 1 Ionawr 1986
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
92,3915 km² (110fed)
0.5
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
10,148,259 (76fed)
10,495,000
114/km² (87fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$203.4 biliwn (41af)
$19,335 (37fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.904 (27fed) – uchel
Arian cyfred Euro (€) 2 (EUR)
Cylchfa amser
 - Haf
WET (UTC)
WEST (UTC+1)
Côd ISO y wlad .pt
Côd ffôn +351
1 Mirandeg cydnabir yn swyddogol ym Miranda do Douro

2cyn i 1999: Escudo Portiwgaidd

3Azores: UTC-1; UTC yn Haf

Gwlad a gweriniaeth yn ne-orllewin Ewrop yw'r Weriniaeth Bortiwgalaidd neu Portiwgal (Portiwgaleg: Português). Mae hi'n gorwedd rhwng Sbaen a'r Cefnfor Iwerydd ac mae'r ynysoedd Azores a Madeira hefyd yn rhan o'r wlad. Prifddinas Portiwgal yw Lisbon.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Portiwgal

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Portiwgal

Mae hanes Portiwgal yn y cyfnod cynnar yn rhan o hanes Penrhyn Iberia yn gyffredinol. Daw'r enw Portiwgal o'r enw Rhufeinig Portus Cale. Yn y cyfnod cyn dyfodiad y Rhufeiniad, poblogid yr ardal sydd yn awr yn ffurfio Portiwgal gan nifer o bobloedd wahanol, yn cynnwyd y Lwsitaniaid a'r Celtiaid. Ymwelodd y Ffeniciaid a'r Carthaginiaid a'r ardal, a bu rhan ohoni dan reolaeth Carthago am gyfnod.

Ymgorfforwyd yr ardal yn yr Ymerodraeth Rufeinig wedi i Cathago gael ei gorchfygu; roedd talaith Rufeinig Lusitania, wedi 45 CC, yn cyfateb yn fras i'r wlad bresennol. Wedi diwedd yr ymerodraeth, meddiannwyd y wlad gan lwythau Almaenig megis y Suevi, Buri a'r Fisigothiaid. Wedi'r goresgyniad Islamaidd ar ddechrau'r 8fed ganrif daeth yn rhan o Al Andalus. Ffurfiwyd tiriogaeth o'r enw Portiwgal yn 868, wedi i'r Cristioniogion ddechrau ad-ennill tir yn y Reconquista. Wedi buddigoliaeth dros y Mwslimiaid yn Ourique yn 1139, ffurfiwyd Teyrnas Portiwgal. Parhaodd yr ymladd yn erbyn y Mwslimiaid, ac yn 1249 cipiwyd yr Algarve gan y Cristionogion, gan sefydlu ffiniau presennol Portiwgal.

Yn niwedd y 14eg ganrif, hawliwyd coron Portiwgal gan frenin Castilla, ond bu gwrthryfel poblogaidd, a gorchfygwyd Castillia ym Mrwydr Aljubarrota gan Ioan o Aviz, a ddath yn Ioan I, brenin Portiwgal. Drod y blynyddoedd nesaf, bu gan Portiwgal ran flaenllaw yn y gwaith o fforio a gwladychu gwledydd tu allan i Ewrop. Yn 1415, meddiannodd Ceuta yng Ngogledd Affrica, ei gwladfa gyntaf; dilynwyd hyn gan feddiannu Madeira a'r Azores. Yn 1500, darganfuwyd Brasil gan Pedro Álvares Cabral, a'i hawliodd i goron Portiwgal, a deng mlynedd wedyn, cipiwyd Goa yn India, Ormuz yng Nghulfor Persia a Malacca yn yr hyn sy'n awr yn Malaysia. Cyrhaeddodd llongwyr Portiwgal cyn belled a Siapan ac efallai Awstralia.

Wedi marwolaeth y brenin Sebastian heb aer mewn brwydr ym Moroco, hawliwyd ei orsedd gan Philip II, brenin Sbaen, a rhwng 1580 a 1640, roedd brenin Sbaen yn frenin Portiwgal hefyd, er ei bod yn parhau i gael ei hystyried fel teyrnas annibynnol. Yn 1640, bu gwrthryfel, a chyhoeddwyd Ioan IV yn frenin Portiwgal.

O ddechrau'r 19eg ganrif, dechreuodd grym Portiwgal edwino; daeth Brasil yn annibynnol yn 1822, er iddi feddiannu rhannau o Affrica yn nes ymlaen yn y ganrif, yn cynnwys y tiriogaethau sy'n awr yn wledydd Cabo Verde, São Tomé a Príncipe, Gini-Bissau, Angola a Mozambique.

Wedi gwrthryfel yn Lisbon, dymchwelwyd y frenhiniaeth a sefydlwyd gweriniaeth ddemocrataidd yn 1910. Yn 1926, bu gwrthryfel milwrol a sefydlwyd llywodraeth filwrol a arweiniodd at unbennaeth António de Oliveira Salazar. Collodd Portiwgal ei meddiannau yn India pan oresgynnwyd hwy gan fyddin India yn 1961. Tua dechrau'r 1960au hefyd y dechreuodd rhyfeloedd annibyniaeth yn Angola a Mozambique. Wedi gwrthryfel a adnabyddir fel y Chwyldro Carnasiwn yn 1974, rhoddwyd diwedd ar undennaeth a daeth Portiwgal yn wlad ddemocrataidd. Yn 1999, dychwelwyd Macau, yr olaf o'i meddiannau tramor, i Tseina.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Portiwgal

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Portiwgal

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]




Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Portiwgal
yn Wiciadur.


Flag of Portugal.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Bortiwgal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.