Tiwnisia
|
|||||
Arwyddair: Trefn, Rhyddid a Chyfiawnder | |||||
Anthem: Himat al Hima | |||||
Prifddinas | Tiwnis | ||||
Dinas fwyaf | Tiwnis | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Ffrangeg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
Arlywydd Prif Weinidog |
Moncef Marzouki Mehdi Jomaa |
||||
Annibyniaeth Ennill Annibyniaeth (oddi ar Ffrainc) Datganiad y Weriniaeth |
20 Mawrth, 1956 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
163,610 km² (92eg) 5.0 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2012 - Cyfrifiad 1994 - Dwysedd |
10,732,900 (78fed) 8,785,711 66/km² (133fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $86.67 biliwn (32ain) $8,255 (71fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2007) | 0.766 (89eg) – canolig | ||||
Arian cyfred | Dinar Tiwnisaidd (TD) (TND ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
CET (UTC+1) CEST (UTC+2) |
||||
Côd ISO y wlad | .tn | ||||
Côd ffôn | +216 |
Gwlad Arabaidd yng Ngogledd Affrica, sy'n gorwedd rhwng Algeria yn y gorllewin a Libia yn y dwyrain, ac yn wynebu Sisili a de'r Eidal a Môr y Canoldir yn y gogledd yw Gweriniaeth Tiwnisia.[1] Ei phrifddinas yw Tiwnis.
Cynnwys
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Lleolir Tiwnisia ar ran fwyaf gogleddol cyfandir Affrica, ar ganol arfordir y gogledd. Ynys Sicilia yw'r tir Ewropeaidd agosaf, 80 km i'r gogledd-ddwyrain dros Gulfor Sicilia. Ar y tir Algeria a Libia yw ei chymdogion. Mae ganddi arfordir 1400 km hir ac amrywiol ar y Môr Canoldir.
Gydag arwynebedd tir o ddim ond 164,000 km², Tiwnisia yw'r wlad leiaf yng Ngogledd Affrica. Mae'n mesur 750 km o'r anialwch yn y de i'r Cap Blanc, pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica, yn y gogledd, ond dim ond 150 km ar ei lletaf o'r dwyrain i'r gorllewin. Yn dopograffyddol mae'r wlad yn ymrannu'n ddwy ardal; y gogledd mynyddig a'r de lled-wastad.
Y prif gadwyn mynydd yw'r Dorsal, sy'n estyniad dwyreiniol i gadwyn hir Mynyddoedd yr Atlas sy'n cychwyn ym Moroco yn Atlas Uchel. Mae'n rhedeg ar gwrs gogledd-ddwyreiniol o Tébessa ar y ffin ag Algeria hyd Zaghouan i'r de o Diwnis. Mae'n cynnwys y pwynt uchaf yn y wlad, Jebel Chambi (1544m), i'r gorllewin o Kasserine. Mae'r Dorsal yn gorffen mewn cyfres o fryniau isel yng ngorynys Cap Bon.
Gorwedd y rhan fwyaf o dir amaethyddol da y wlad i'r gogledd o'r llinell hon. Yn hanesyddol hon oedd grawnfa y Rhufain hynafol. Mae'n cynnwys gwastadeddau uchel y Dorsal ei hun, sef y Tell, a dyffryn ffwrythlon afon Medjerda. Afon Medjerda yw'r unig afon barhaol yn y wlad. I'r gogledd o ddyfryn Medjerda ceir mynyddoedd coediog y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir y gogledd o'r ffin ag Algeria, ger Tabarka, i gyfeiriad Bizerte, ger Tiwnis, lle mae'n rhedeg allan mewn gwastadedd arfordirol isel.
I'r de o'r Dorsal ceir ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr. Dyma'r Sahel, sy'n enwog am ei holewydd a'i dêts. Ymhellach i'r de mae'r tir yn troi'n fwyfwy sych a cheir sawl chott (llyn halen) yma ac acw. Serch hynny mae'r tir ar hyd yr arfordir yn ffrwythlon lle ceir dŵr ac yn cynnal rhai trefi mawr megis Sousse a Sfax.
I lawr yn y de ei hun mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn orchuddiedig gan y rhan ddwyreiniol yr Erg Mawr Dwyreiniol, sy'n llenwi rhan fawr o dde-ddwyrain Algeria yn ogystal ac yn rhan o aniladiroedd y Sahara. Yr unig dir ffrwythlon yw'r gwerddonau a'r stribed o dir ar yr arfordir.
- Gweler hefyd:Rhestr dinasoedd a threfi yn Nhiwnisia
Hinsawdd[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan ogledd Tiwnisia hinsawdd sy'n nodweddiadol o'r Môr Canoldir, gyda hafau hir, sych a phoeth a gaeafau cymhedrol a gwlyb. Mae mynyddoedd y Dorsal a Kroumirie yn cael eira weithiau. Wrth fynd i'r de mae'r hinsawdd yn troi'n boethach a sychach gyda phrin modfedd o law yn disgyn mewn blwyddyn yn yr Erg Mawr.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan Tiwnisia hanes hir a chyfoethog. Berberiaid oedd y trigolion brodorol. Glaniodd y Ffeniciaid yn yr wythfed ganrif CC a sefydlu dinas Carthago (Carthage) a dyfodd i fod yn un o ddinasoedd grymusaf yr Henfyd gyda thir a dinasoedd yn ei meddiant ar hyd arfordir y Maghreb (Moroco ac Algeria heddiw), yn Sisili, Sardinia a'r Ynysoedd Balearig a dwyrain Sbaen. Yn Nhiwnisia ei hun roedd 'na ddinasoedd pwysig yn Utica, Kerkouane, Hadrametum (Sousse heddiw) a lleoedd eraill.
Yn yr olaf o'r tri Rhyfel Pwnig syrthiodd Carthago a'i chwaer-ddinasoedd yn Nhiwnisia i ddwylo'r Rhufeiniaid. Daeth y rhan fwyaf o Diwnisia yn dalaith Rufeinig a elwid Affrica am mai Ifriquiya oedd yr enw brodorol am ogledd Tiwnisia gan y Berberiaid. Blodeuodd Carthago eto fel dinas Rufeinig a chodwyd nifer o ddinasoedd a threfi eraill sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd archaeolegol Rhufeinig gorau yn y byd heddiw, e.e. Dougga, Bulla Regia, El Djem a Sbeitla.
Iaith a Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Tiwnisia yn wlad ddwyieithog gyda dwy iaith swyddogol, sef Arabeg a Ffrangeg. Arabeg yw mamiaith pawb bron ond mae Ffrangeg yn cael ei siarad yn dda gan bobl sydd wedi derbyn addysg. Defnyddir Ffrangeg i gyd ag Arabeg mewn sefydliadau addysg uwch. Ceir rhaglenni Ffrangeg ar y teledu ac mae radio yn yr iaith yn gwasanaethu'r wlad o Diwnis. Cyhoeddir sawl papur newydd a chylchgrawn Ffrangeg yn ogystal. Mae gan Tiwnisia lenyddiaeth fywiog yn yr iaith Ffrangeg hefyd. Mewn rhannau o'r de a'r dwyrain ceir ychydig o siaradwr iaith Berber.
Mae hanes llenyddiaeth Tiwnisia yn gyfoethog. Llenyddiaeth Ffrangeg yw'r diweddaraf i ymuno â'i ffrwd. Cyn hynny roedd gan y wlad lenorion yn yr iaith Ffeniceg a'r iaith Ladin. Cynhyrchodd y wlad llenorion enwog fel Terens, Apuleius a Sant Awstin yn ystod y cyfnod clasurol. Arabeg yw iaith bwysicaf hanes llenyddiaeth Tiwnisia, wrth gwrs, ac yn cynnwys yn ei datblygiad ffigurau fel yr hanesydd enwog Ibn Khaldun. Y llenor diweddar mwyaf dylanwadol oedd Chebbi.
O ran crefydd, mae 99% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ond ceir rhai Cristnogion hefyd, yn arbennig yn nhrefi'r gogledd. Ar un adeg bu gan y wlad boblogaeth bur sylweddol o Iddewon, yn arbennig yn y brifddinas ac yn Djerba, ond ymudodd y mwyafrif ohonynt yn sgîl sefydlu Israel.
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Tiwnisia yn wlad gymharol ddatblygedig sy'n un o sefydlwyr Undeb y Maghreb Arabaidd.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Tiwnisia].
Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Llywodraeth Tiwnisia a Newyddion am y wlad[golygu | golygu cod y dudalen]
- Llywodraeth Tiwnisia (Ffrangeg)
- AllAfrica.com - Tiwnisia - penawdau newyddion
- Cyfryngau Tiwnisia Arlein (swyddogol)
- The North Africa Journal - newyddion economaidd a busnes
- Newyddion am y Maghreb
Arolygon[golygu | golygu cod y dudalen]
- Proffeil gwlad Newyddion BBC - Tiwnisia
- Encyclopaedia Britannica, Tiwnisia
- Ffeithlyfr y CIA - Tiwnisia
- Gwybodaeth gyffredinol a bywgraffiadur
Twristiaeth ac amryw[golygu | golygu cod y dudalen]
- gwybodaeth twristaidd
- Nawaat
- Carcharorion gwleidyddol
- TunisiaOnline
- Cyfraith Tiwnisia
- Tunisia Daily (papur)
|
|
---|---|
Aelodau | Yr Aifft · Algeria · Bahrain · Y Comoros · Djibouti · Yr Emiradau Arabaidd Unedig · Gwlad Iorddonen · Irac · Kuwait · Libanus · Libya · Mauritania · Moroco · Oman · Palesteina · Qatar · Saudi Arabia · Somalia · Sudan · Syria · Tunisia · Yemen |
Arsyllwyr | Eritrea · India · Venezuela |
Gwledydd y Môr Canoldir | |
---|---|
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci |