Cymdeithas yr Iaith, Deiseb yr Iaith, Addysg |
|
|
'Iaith y nefoedd' Cymraeg oedd iaith gyntaf mwyafrif pobl Cymru hyd at yr ugeinfed ganrif. Ar ddechrau'r 19fed ganrif credid bod 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn unig, 10% yn ddwyieithog ac 20% yn uniaith Saesneg. Erbyn diwedd y ganrif dim ond hanner y boblogaeth oedd yn medru'r Gymraeg - canlyniad nifer o ffactorau cymhleth, gan gynnwys dyfodiad y rheilffyrdd i Gymru a'r mewnlifiad o filoedd o bobl o Loegr i weithio yn bennaf yn ardaloedd diwydiannol y wlad. Er bod yr iaith yn ffynnu mewn sawl maes, fel y capeli a'r eisteddfod, yn negawdau olaf y 19fed ganrif, roedd rhai yn dadlau mai trwy ddysgu Saesneg y gellid 'dod ymlaen yn y byd'. Gan hynny ni chafodd y Gymraeg le teilwng yn y system addysg a ddatblygwyd yn ail hanner y 19fed ganrif. |
|
|
|
|
Y Gymdeithas yr Iaith gyntaf Er mwyn hyrwyddo'r iaith yn y byd addysg, sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1885. Sylfaenydd y Gymdeithas oedd Dan Isaac Davies (1839-1887), arolygydd ysgolion yn sir Forgannwg, a chafwyd cefnogaeth yr Aelod Seneddol a'r heddychwr Henry Richard (1812-1888). Cyhoeddodd Dan Isaac Davies gyfres o erthyglau, Tair miliwn o Gymry Dwy-ieithawg mewn can mlynedd, a ddadleuai y gellid sicrhau 3 miliwn o Gymry dwyieithog erbyn 1985 drwy sefydlu polisi addysg goleuedig. Llwyddodd y Gymdeithas i berswadio'r Comisiwn Brenhinol ar Addysg Elfennol i gynnwys argymhelliad a fyddai'n rhoi lle i'r Gymraeg mewn ysgolion elfennol o 1889 ymlaen ond hyd yn oed wedi hynny nid oedd yr iaith yn cael yr un sylw â'r Saesneg yn ysgolion Cymru o bell ffordd. Gyda marwolaeth ddisymwth Dan Isaac Davies, daeth y mudiad cyntaf yn dwyn yr enw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ben. |
|
|
Deiseb yr iaith Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 1938, dan arweiniad Undeb Cymru Fydd, dechreuwyd casglu enwau ar gyfer Deiseb Genedlaethol. Diben y Ddeiseb oedd hawlio statws i'r iaith Gymraeg 'a fyddai'n unfraint â'r Saesneg ym mhob agwedd ar weinyddiad y gyfraith a'r Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru'. Arwyddwyd y Ddeiseb gan dros chwarter miliwn o bobl a chafwyd cefnogaeth 30 allan o'r 36 Aelod Seneddol Cymreig. |
|
Arweiniodd hyn at Ddeddf Llysoedd Cymru 1942 a ganiataodd y defnydd o'r Gymraeg mewn llysoedd barn ond methwyd a sicrhau hawliau ehangach. | |
|
|
Ymgyrchoedd addysg yr Ugeinfed Ganrif Dan ddylanwad Owen M Edwards, Prif Arolygydd Ysgolion Cymru o 1907 hyd 1920, hyrwyddwyd yr iaith Gymraeg mewn ysgolion cynradd a dysgwyd iaith a llenyddiaeth Gymraeg fel pwnc yn yr ysgolion uwchradd a sefydlwyd o ganlyniad i Ddeddf 1889. Fodd bynnag, awyrgylch Seisnig a gafwyd yn yr ysgolion uwchradd hyn, hyd yn oed yn yr ardaloedd mwyaf Cymreig. |
|
|
Yn 1939, ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, yn Aberystwyth sefydlwyd yr ysgol gyntaf i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Gan fod cymaint o evacuees di-Gymraeg wedi cyrraedd y dref o ddinasoedd Lloegr er mwyn osgoi'r bomio, a gan eu bod yn derbyn eu haddysg mewn ysgolion lleol, roedd dysgu'r Gymraeg ynddynt yn anodd. Felly penderfynodd Syr Ifan ab Owen Edwards (mab Owen M Edwards) sefydlu Ysgol Gymraeg Urdd Gobaith Cymru gyda saith o ddisgyblion. |
Derbyniai'r disgyblion eu gwersi i gyd yn y Gymraeg. Maes o law daeth mwy o blant i'r ysgol ac ar ôl ymgyrchu brwd fe'i sefydlwyd yn ysgol swyddogol o dan yr awdurdod addysg lleol wedi'r Rhyfel. | |
Sefydlwyd ysgolion Cymraeg eraill ledled Cymru wedi hynny ac yn 1956 agorwyd Ysgol Glan Clwyd yn y Rhyl, yr ysgol uwchradd gyntaf lle roedd y Gymraeg yn gyfrwng dysgu. Erbyn 1975 roedd 7 ysgol uwchradd ddwyieithog wedi'u sefydlu. Yn aml, canlyniad ymgyrchu diflino gan rieni a mudiadau oedd sefydlu'r ysgolion hyn. |
|
Gwirfoddolwyr oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu Mudiad yr Ysgolion Meithrin yn 1971 i ddarparu addysg feithrin Gymraeg i blant o dan bump oed. Erbyn canol y '90au roedd dros fil o grwpiau meithrin yn bodoli o dan nawdd y Mudiad. |
|
|
||
Cymdeithas yr Iaith, Deiseb yr Iaith, Addysg | ||
Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, S4C, Deddf Iaith | ||
|
||
Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! |