Mormoniaeth
Crefydd a ddechreuodd yn Unol Daleithiau America yn 1831, ar ôl i Joseph Smith, Jr. honni iddo gael datguddiad oddi wrth Dduw yw Mormoniaeth. Mae gan yr eglwys Formonaidd mwy na 11 miliwn o aelodau.
Y mwyaf o'r enwadau Mormonaidd yw Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf.
Cysylltiadau Cymreig[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae gan y Mormoniaid gysylltiadau hanesyddol cryf â Chymru, yn enwedig y de. Bu cenhadon Mormonaidd yn weithgar yng Nghymru yn y 1840au a'r 1850au, a throdd miloedd o bobl i'r grefydd newydd. Ymfudodd nifer ohonyn nhw i America, ac aeth cyfran sylweddol o'r ymfudwyr hynny ar y Symudiad mawr i'r Gorllewin gyda Brigham Young, a ddechreuodd yn 1847. Ymsefydlodd y Cymry gyda'r Mormoniaid eraill yn Utah, a dywedir fod tua 20% o boblogaeth y dalaith honno o dras Cymreig heddiw.[1]
Cyhoeddwyd sawl cylchgrawn a llyfr yn y Gymraeg gan y Mormoniaid yn y 19eg ganrif, yn cynnwys Utgorn Seion.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Mormoniaid Cymreig cynnar ar wefan welshmormonhistory.org