Ymyrraeth filwrol yn Libia, 2011

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r gwaharddiad hedfan dros Libia a chanolfannau milwrol a llongau rhyfel sydd yn rhan o'r ymyrraeth
Protest yn 2011 yn Minneapolis yn erbyn ymyrraeth filwrol.

Ar 19 Mawrth 2011 dechreuodd ymyrraeth filwrol yn Libia gan gynghrair o wledydd i weithredu Penderfyniad 1973 Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, fel ymateb i'r gwrthryfel yn Libia.[1] O fewn ychydig ddyddiau roedd Unol Daleithiau America (UDA) a'r Deyrnas Gyfunol (DG) wedi tanio dros 110 taflegryn Tomahawk,[2] a chefnogaeth milwrol gan Canada a Ffrainc. Roedd yr ymyrraeth gan y gynghrair yn cynnwys gwaharddiad hedfan, môr-warchae, a chyrchoedd awyr: cadarnhawyd fod Ffrainc wedi taro nifer o danciau byddin y wlad.[3]

Yr enwau swyddogol ar yr ymgyrchoedd arfog hyn oedd: Opération Harmattan gan Ffrainc, Operation Ellamy gan y DG, Operation Mobile gan Canada ac Operation Odyssey Dawn gan UDA. [4] Roedd 19 gwlad yn aelodau o'r gynghrair, gyda'r DG a Ffrainc yn arwain. Roedd y gynghrair yn cynnwys aelod-wladwriaethau NATO, Sweden, Qatar, a'r Emiradau Arabaidd Unedig.

Ar 24 Mawrth daeth y gwaharddiad hedfan dan reolaeth NATO, a alwyd yr ymyrraeth yn Operation Unified Protector, gyda'r ymosodiadau ar fyddin Libia yn nwylo'r gynghrair.

Daeth yr ymyrraedd filwrol i ben fwy neu lai pan laddwyd yr Arlywydd Gaddafi a daeth ymgyrch NATO i ben yn swyddogol ar 31 Hydref 2011.[5]

NATO[golygu | golygu cod y dudalen]

O aelod-wladwriaethau NATO: Ffrainc, y Deyrnas Gyfunol, yr Unol Daleithiau, Canada, Gwlad Belg, Norwy, a Denmarc gynhaliodd y cyrchoedd awyr. Roedd Sbaen, yr Eidal, a'r Iseldiroedd yn cynnal ymgyrchoedd rhagchwilio yn unig ac roedd Albania yn darparu ei phorthladdoedd a'i meysydd awyr ar gyfer NATO. Darparodd Bwlgaria ffrigad, Gwlad Groeg awyrennau, llong, a chanolfannau milwrol, a darparodd Rwmania un llong, a darparodd llynges Twrci longau ac un llong danfor. Roedd gweddill aelodau NATO'n cefnogi'r ymgyrch i amddiffyn sifiliaid fel yr awdurdodwyd gan Benderfyniad 1973. Er hyn, gwrthododd llywodraeth yr Almaen weithredu'n filwrol.[6]

Ymateb[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y Dwyrain Canol dim ond Syria a wrthwynebodd yr ymyrraeth yn gyfangwbl.[angen ffynhonnell] Mae dwy o wladwriaethau Arabaidd Gwlff Persia, Qatar a'r Emiradau Arabaidd Unedig, wedi cyfrannu at yr ymyrraeth filwrol. Arhosodd lluoedd milwrol yr Aifft, cymydog dwyreiniol Libia a welodd chwyldro yn Ionawr a Chwefror 2011, yn swyddogol niwtral ar y gwrthryfel cyn i Benderfyniad 1973 gael ei basio, ond roedd barn gyhoeddus o fewn y wlad yn gefnogol iawn dros ymyrraeth gan wledydd y Gorllewin. Er bod llywodraeth Iran yn cefnogi'r gwrthryfelwyr yn erbyn Muammar al-Gaddafi, disgrifiodd Ramin Mehmanparast, llefarydd dros adran dramor Iran, y cyrchoedd awyr fel "gwladychiaeth mewn ffurff newydd".[7]

Protestiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd protestiadau ledled y byd yn erbyn ymosodiadau milwrol y gynghrair gan gynnwys ym Mawrth 2011 yn Llundain. Ar yr 20fed cafwyd protest y tu allan i 10 Stryd Downing gyda baneri'n mynegi, "The lessons of Iraq and Afghanistan]] have not been learnt". Roedd y mudiad CND yn bresennol yn ogystal â Stop the War Coalition. Anerchwyd y dorf gan George Gallaway a dywedodd: "Mae'r rhyfel hwn wedi'i seilio ar reoli olew, a'r neges i holl wledydd y byd gan y gynghrair ydy 'Gallwn wneud fel y mynnom!'" a "rhyfel Imperialaidd".[8]

Yn Libia ei hun, cyn 18 Gorffennaf, cynhaliwyd nifer o brotestiaidau gan bobl y wlad - fel arfer gyda thorf o tua 10,000 yr un - o blaid Gaddafi.[9]

Cost ariannol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr arian a wariwyd ar y rhyfel yn Libia gan wledydd estron
Gwlad Arian a wariwyd Erbyn
 Y Deyrnas Unedig $336–$1,500 miliwn USD Medi 2011 (estimate)[10][11]
 Unol Daleithiau America 896 – 1,100 miliwn USD Hydref 2011[12][13][14][15][16]
 Yr Eidal $700 miliwn EUR Hydref 2011[17]
 Ffrainc $450 miliwn EUR Medi 2011[18][19]
 Twrci 300 miliwn USD Gorffennaf 2011[20]
 Denmarc $120 miliwn EUR Tachwedd 2011[21]
 Gwlad Belg $58 miliwn EUR Hydref 2011[22]
 Sbaen $50 miliwn EUR Medi 2011[23]
 Sweden 50 miliwn USD Hydref 2011[24]
 Canada 26 miliwn USD Mehefin 2011[25]

Ar 22 Mawrth 2011 amcangyfrifodd y BBC beth fyddai'r gost ariannol i'r Deyrnas Gyfunol.[26] Dywedodd Francis Tusa,golygydd y rhaglen Defence Analysis, y dylid amcangyfrif y gall y gost o hedfan Tornado GR4 fod oddeutu £35,000 yr awr ac felly fod cylch-wylio (neu 'batrolio') un sector felly'n costio £2M –£3M ($2.75M -$4.13M USD) y dydd. Dywedwyd hefyd fod taflegrau'n costio £700,000-800,000 yr un.

Oriel o awyrennau milwrol ac arfau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Security Council Approves 'No-Fly Zone' over Libya, Authorizing 'All Necessary Measures' To Protect Civilians in Libya, by a Vote of Ten For, None Against, with Five Abstentions". United Nations. 17 Mawrth 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol on 19 Mawrth 2011. http://www.un.org/News/Press/docs/2011/sc10200.doc.htm. Adalwyd 19 March 2011.
  2. "Libya Live Blog – March 19". Al Jazeera. 19 Mawrth 2011. Archifwyd from y gwreiddiol on 19 Mawrth 2011. http://www.webcitation.org/5xJ4lwmv0. Adalwyd 19 Mawrth 2011.
  3. "France Uses Unexplosive Bombs in Libya: Spokesman". Xinhua News Agency. 29 April 2011. http://news.xinhuanet.com/english2010/world/2011-04/29/c_13850700.htm. Adalwyd 29 April 2011.
  4. "Gunfire, Explosions Heard in Tripoli". CNN. 21 March 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol on 21 March 2011. http://www.cnn.com/2011/WORLD/africa/03/19/libya.civil.war/index.html?hpt=T1&iref=BN1. Adalwyd 20 March 2011.
  5. "UN Security Council votes to end Libya operations". BBC News. 27 Hydref 2011. http://www.bbc.co.uk/news/world-africa-15481143. Adalwyd 27 Hydref 2011.
  6. (Saesneg) Libia: Where do Nato countries stand?. BBC (21 Ebrill 2011).
  7. (Saesneg) Lybian air strikes: reactions around the Middle East . The Guardian (21 Mawrth 2011).
  8. Anti-war groups protest against anti-Gaddafi air strikes, The Guardian, Mawrth 20, 2011.
  9. "Embattled Gaddafi rallies support". The Belfast Telegraph. 18 Gorffennaf 2011. http://www.belfasttelegraph.co.uk/news/world-news/embattled-gaddafi-rallies-support-16024566.html. Adalwyd 28 Hydref 2011.
  10. "Cost of Libya operations". Ministry of Defence. 8 December 2011. http://www.mod.uk/DefenceInternet/DefenceNews/DefencePolicyAndBusiness/CostOfLibyaOperations.htm. Adalwyd 6 April 2012.
  11. Hopkins, Nick (26 September 2011). "UK operations in Libya: the full costs broken down". The Guardian (London). http://www.guardian.co.uk/news/datablog/2011/sep/26/uk-operations-libya-costs. Adalwyd 28 October 2011.
  12. America’s Secret Libya War: U.S. Spent $1 Billion on Covert Ops Helping NATO. The Daily Beast (30 August 2011). Retrieved 16 August 2013.
  13. "Libya mission cost U.S. more than billion". CBS News. http://www.cbsnews.com/8301-503543_162-20123941-503543/libya-mission-cost-u.s-more-than-$1-billion/.
  14. "As Cost of Libyan War Rises, Gates Scolds NATO For Not Pulling Its Weight". Associated Press. Fox News Channel. 7 April 2010. http://www.foxnews.com/politics/2011/06/10/gates-blasts-nato-questions-future-alliance/. Adalwyd 11 September 2011.
  15. "Pentagon sees Libya military costs soar". Financial Times. 9 June 2011. http://www.ft.com/cms/s/0/11d5624c-920f-11e0-b8c1-00144feab49a.html. Adalwyd 11 September 2011.
  16. Ukman, Jason (23 August 2011). "Libya war costs for U.S.: $896 million so far". The Washington Post. http://www.washingtonpost.com/blogs/checkpoint-washington/post/libya-war-costs-for-us-896-million-so-far/2011/08/23/gIQA5KplYJ_blog.html. Adalwyd 28 October 2011.
  17. "Missioni/A Italia costano 700 milioni a semestre senza la Libia, AP Reports". tmnews. 20 December 2011. http://www.tmnews.it/web/sezioni/esteri/PN_20110613_00143.shtml.
  18. Bumiller, Elisabeth (26 August 2011). "Libyan War Goes a Long Way to Improve the Pentagon's View of France as an Ally". The New York Times (Washington D.C.). http://www.nytimes.com/2011/08/27/world/africa/27military.html. Adalwyd 17 November 2011.
  19. "Libyan war to cost EUR 320m to France". See News. 6 September 2011. http://world.seenews.com/news/Libyan_war_to_cost_EUR_320m_to_France__145218. Adalwyd 28 October 2011.
  20. Sabah, Zaid; Chipman, Kim (4 July 2011). "Turkey Recognizes Libyan Rebels, Gives $300 Million, AP Reports". Bloomberg. http://www.bloomberg.com/news/2011-07-03/turkey-recognizes-libyan-rebels-gives-300-million-ap-reports.html. Adalwyd 4 November 2011.
  21. "Dansk pris for Gadaffi-exit: 620 millioner [Danish price for Gaddafi exit: 620 million]" (in Danish). Politiken. http://politiken.dk/indland/ECE1497472/dansk-pris-for-gadaffi-exit-620-millioner/. Adalwyd 4 January 2012.
  22. "Deelname aan NAVO-operatie in Libië kost 32 miljoen euro [War in Libya costs Belgium 32 miliwn EURo]" (in Dutch). De Morgen. http://www.demorgen.be/dm/nl/989/Binnenland/article/detail/1388659/2012/02/01/Deelname-aan-NAVO-operatie-in-Libie-kost-32-miljoen-euro.dhtml. Adalwyd 26 January 2012.
  23. "La guerra de Libia podría duplicar el coste previsto por el Gobierno [The Libyan war could double the estimated cost by the Government]" (in Spanish). Libre Mercado. http://www.libertaddigital.com/economia/la-guerra-de-libia-duplicara-el-coste-inicial-previsto-por-el-gobierno-1276418225/. Adalwyd 1 November 2011.
  24. "Gripen jets back from Libya next week". Radio Sweden. http://sverigesradio.se/sida/artikel.aspx?programid=2054&artikel=4754046. Adalwyd 28 Hydref 2011.
  25. "Canada Libya Mission Cost Could Hit $60M". Huffington Post. 9 Mehefin 2011. http://www.huffingtonpost.ca/2011/06/09/canada-libya-mission-to-b_n_873776.html. Adalwyd 11 Medi 2011.
  26. "Libya: Is Cost of Military Mission Sustainable?". BBC News. 22 Mawrth 2011. http://www.bbc.co.uk/news/uk-12806709.
Tank template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ryfel neu wrthdaro milwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Flag of Libya.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Libia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato