Môr De Tsieina

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Môr De Tsieina

Môr sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel yw Môr De Tsieina (Tsieinëeg: 南海, Nán Hǎi, Môr Deheuol). Saif i'r de o Weriniaeth Pobl Tsieina ac i'r gogledd o Indonesia. Y gwledydd eraill sydd ag arfordir arno yw Malaysia, y Ffilipinau, Taiwan, Brwnei, Singapôr, Gwlad Thai, Cambodia a Vietnam.

Mae ganddo arwynebedd o 2,75,00 km² ac mae'n 5016 medr o ddyfnder yn y man dyfnaf. Fe'i gwahenir oddi wrth Fôr Dwyrain Tsieina gan Gulfor Formosa.