David Trimble
William David Trimble, Barwn Trimble (ganed 15 Hydref 1944) oedd arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster rhwng 1995 a 2005. Roedd ei gefnogaeth i Gytundeb Belffast yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arweinydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.
Yn 1998 dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a John Hume o'r SDLP am eu cyfraniad i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Ym mis Mehefin 2006, daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn Trimble o Lisagarvey yn Swydd Antrim. Yn Ebrill 2007, cyhoeddodd ei fod yn gadael yr UUP ac yn ymuno â Phlaid Geidwadol y DU.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Harold McCusker |
Aelod Seneddol dros Upper Bann 1990 – 2005 |
Olynydd: David Simpson |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon 1998 – 2001 |
Olynydd: Reg Empey (actio) |
Rhagflaenydd: Reg Empey (actio) |
Prif Weinidog Gogledd Iwerddon 2001 – 2002 |
Olynydd: Dim (o 2007 Ian Paisley) |
|