El Salfador
|
|||||
Arwyddair: Dios, Unión, Libertad (Sbaeneg: Duw, Uniad, Rhyddid) |
|||||
Anthem: Himno Nacional de El Salvador | |||||
Prifddinas | San Salvador | ||||
Dinas fwyaf | San Salvador | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
Arlywydd | Mauricio Funes |
||||
Annibyniaeth O Sbaen O Weriniaeth Ffederal Canolbarth America |
15 Medi, 1821 1842 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
21 040 km² (153ain) 1.5 |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2006 - Cyfrifiad 1992 - Dwysedd |
7 miliwn (97ain) 5 118 599 318.7/km² (32ain) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $34.15 biliwn (93ain) $4700 (108fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.722 (104ydd) – canolig | ||||
Arian cyfred | Doler yr Unol Daleithiau (USD ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-6) | ||||
Côd ISO y wlad | .sv | ||||
Côd ffôn | +503 |
Gweriniaeth Sbaeneg yng Nghanolbarth America sy'n ffinio â'r Cefnfor Tawel i'r de, Gwatemala i'r gorllewin, ac Hondwras i'r gogledd a'r dwyrain yw Gweriniaeth El Salfador neu El Salvador (Sbaeneg: República de El Salvador, /re'puβlika ðe el salβa'ðor/).
Cynnwys
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Gorchfygwyd El Salfador, oedd yn rhan o'r Deyrnas Astecaidd, gan y Sbaenwyr yn 1526, ac enillodd annibyniaeth yn 1821. Roedd yn aelod o Ffederasiwn Canolbarth America tan ei ddiddymiad yn 1839, a daeth yn weriniaeth yn 1841. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif rheolwyd y wlad gan unbenaethau a dioddefodd o ansefydlogrwydd gwleidyddol. Bu wrthdaro â Hondwras yn 1965 ac yn Rhyfel Pêl-droed 1969. Parhaodd yr ansefydlogrwydd gwleidyddol i'r 1970au gyda gweithredoedd herwfilwrol yn erbyn y llywodraeth a gefnogwyd gan yr Unol Daleithiau. Yn dilyn bradlofruddiaeth Archesgob El Salfador Óscar Romero yn 1980 dechreuodd Rhyfel Cartref El Salfador, lle bu farw 75 000 a daeth nifer yn ffoaduriaid. Arwyddwyd cytundeb heddwch yn 1992; o dan delerau'r cadoediad cydnabuwyd y grŵp herwfilwrol asgell chwith Frente Farabundo Martí para la Liberación Nacional (FMLN) fel plaid wleidyddol ac aethant ymlaen i ennill seddi yn etholiadau deddfwriaethol 1994, pan ddaeth yr Alianza Republicana Nacionalista (ARENA) asgell dde i rym. Achosodd ddaeargrynfeydd difrod eang yn 2001.
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Llywodraethir El Salfador gan Arlywydd a etholir pob pum mlynedd, a Chynulliad Cenedlaethol democrataidd gyda 60 o aelodau.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae dwy gadwyn folcanig sy'n llwybro o ddwyrain i orllewin El Salfador yn rhannu'r wlad yn dri rhanbarth daearyddol: llain gul arfordirol yn y de, dyffrynnoedd a llwyfandiroedd ucheldirol gydag uchder cyfartalog o 600 m yng nghanolbarth y wlad, a mynyddoedd yn y gogledd (gyda Santa Ana (2381 m) fel man uchaf y wlad). Mae'r Afon Lempa, sy'n croesi ffin ogleddol El Salfador â Hondwras a gyda'i tharddle yng NGwatemala, yn rhedeg yn ddeheuol trwy'r wlad i'r Cefnfor Tawel. Mae nifer o lynnoedd folcanig yn El Salfador, ac mae daeargrynfeydd yn gyffredin. Mae El Salfador yr unig wlad yng Nghanol America heb arfordir ar y Cefnfor Atlantig.
Adrannau a bwrdeistrefi[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhannir El Salfador yn 14 o adrannau (departamentos), a phob un adran wedi'i isrannu'n 267 o fwrdeistrefi (municipios). Yr adrannau yw:
Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae tua 7 miliwn o bobl yn byw yn El Salfador; 90% ohonynt yn mestizo (hil gymysg), 9% yn wyn ac 1% yn frodorol. El Salfador yw'r wlad gyda'r dwysedd poblogaeth mwyaf yng Nghanolbarth America (318.7/km²). Mae 62% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd trefol a 38% yn byw yng nghefn gwlad.[1] Mae 80% o Salfadoriaid yn Gatholigion Rhufeinig, 18% yn efengylaidd a 2% yn grefydd arall neu ddim yn dilyn crefydd o gwbwl.[1]
Twristiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
[1] Mae nifer y twristiaid sy'n ymweld ag El Salfador wedi cynyddu yn sgil dyfodiad heddwch i'r wlad yn y blynyddoedd diweddar, gyda'r mwyafrif yn dod i fwynhau cyrchfannau arfordirol a thraethau El Salfador. Ond mae trosedd, daeargrynfeydd a chostau uchel am ystafelloedd a theithiau awyr dal i rwystro'r diwydiant.
Bu nifer y twristiaid yn cynyddu 29% yn 2002 i 951 000 o ymwelwyr, tua un am bob 6.8 Salfadoriad. Daeth 31% ohonynt o Gwatemala, 22% o Unol Daleithiau America, 17% o Hondwras a'r 30% gweddill o wledydd eraill.
Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]
[1] Seilir cyfundrefn addysg El Salfador ar yr un Americanaidd. Y lefel llythrennedd yw 79%; mae addysg wedi'i chyfyngu mewn ardaloedd gwledig. Mae gan El Salfador 118 491 o fyfyrwyr (2004), a'r oedran i adael ysgol yw 15.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Cysyllltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwefannau'r llywodraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Sbaeneg) Casa Presidencial – Arlywydd El Salfador
- (Sbaeneg) Asamblea Legislativa – Cynulliad Deddfwriaethol
- (Sbaeneg) Ministerio de Defensa Nacional – Gweinyddiaeth Amddiffyn
- (Sbaeneg) Fuerza Aerea Salvadoreña – Awyrlu El Salfador
- (Sbaeneg) Ministerio de Medio Ambiente y Recursos Naturales – Gweinyddiaeth yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol
- (Sbaeneg) Ministerio de Relaciones Exteriores – Gweinyddiaeth Materion Tramor
- (Sbaeneg) Ministerio de Economía – Gweinyddiaeth yr Economi
- (Sbaeneg) Ministerio de Turismo – Gweinyddiaeth Twristiaeth
- (Sbaeneg) Corte Suprema de Justicia – Llys Gorchuaf am Gyfiawnder
- (Sbaeneg) Procuraduría para la Defensa de los Derechos Humanos – Swyddfa'r Barnwr-Llysddadleuwr-Cyffredinol dros Amddiffyniad Hawliau Dynol
- (Sbaeneg) Banco Central de Reserva de El Salvador – Banc Cronfa Ganolog El Salfador
Gwefannau'r cyfryngau[golygu | golygu cod y dudalen]
Gwefannau newyddion[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Sbaeneg) La Prensa Grafica