Sord Cholmcille
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Swords)
Tref yn Swydd Fingal yn nwyrain Gweriniaeth Iwerddon yw Sord Cholmcille neu Sord Cholm Cille (Saesneg: Swords). Saif gerllaw Maes Awyr Dulyn. Daeth yn brif dref Swydd Fingal pan grewyd y swydd honno yn 1994 trwy rannu Swydd Dulyn.
Dywedir i'r dref gael ei sefydlu gan Sant Colmcille tua 560. Mae'r boblogaeth wedi tyfu'n sylweddol yn y blynyddoedd diweddar; yn 2006 roedd yn 33,998. Mae'r castell yn atyniad i dwristiaid, ac roedd abaty yma hefyd.
Yma y dygwyd corff Brian Boru ar ôl Brwydr Clontarf, ac yma y magwyd Gruffudd ap Cynan, a ddaeth yn frenin Gwynedd yn ddiweddarach.