Ymerodraeth Rwsia
Oddi ar Wicipedia
Gwladwriaeth ymerodrol oedd Ymerodraeth Rwsia a fodolodd rhwng 1721 a Chwyldro Rwsia ym 1917. Roedd yn olynu Tsaraeth Rwsia ac yn rhagflaenu'r Undeb Sofietaidd. Roedd yn ymestyn ar draws Dwyrain Ewrop, y Cawcasws, Gogledd a Chanolbarth Asia, a gogledd y Dwyrain Pell, ac ar un pryd yn cynnwys Alaska yng Ngogledd America.