Morffoleg (daearyddiaeth)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cono de Arita, Salta, Yr Ariannin.

Astudiaeth ffurf wyneb y ddaear yw morffoleg. Mae morffoleg yn disgrifio ffurf y ddaear ac yn esbonio sut mae ei ffurf yn datblygu nawr ac yn y gorffennol. Mae geoleg yn gymorth i esbonio ffurf wyneb y ddaear hefyd, ond erydiad a gwaddodiad yw'r ffactorau pennaf. Oherwydd ein gwybodaeth gynyddol am wyneb y lleuad a'r blaned Mawrth, mae morffoleg erbyn hyn yn cwmpasu ffurf y cyrff hynny hefyd.

Er fod yn golygu astudiaeth ffurf tirwedd cyffredin fel ystumiau afon, ffurf bryniau neu baeau, mae'n anodd esbonio hanes y ffurfiad. Siŵr iawn mae hi'n bosib weld olion erydiad dŵr weithiau, ond beth am erydiad gwynt? A phryd roedd erydiad yn dechrau? Trwy chwilio ateb i gwestiynau felly, mae'n bosib casglu gwyddionaeth am ddyfodol a bywyd Peirianneg Sifil, hefyd.

Hanes morffoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei blynyddoedd cynnar, roedd morffoleg yn wyddionaeth daeareg. Y cylchred erydiad, a ddatblygwyd gan Morris Davis rhwng 1884 a 1899, oedd y model morffolegol cyntaf, ond roedd yn syml iawn.

Datblygwyd model newydd a mwy cymhleth gan Walther Penck yn y 1920au.