AC/DC

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
AC/DC
Cyn-ganwr Bon Scott (canol), gitarydd Angus Young (chwith) a gitarydd bas Cliff Williams (cefn), yn perfformio yn Neuadd Ulster, Awst 1979.
Cyn-ganwr Bon Scott (canol), gitarydd Angus Young (chwith) a gitarydd bas Cliff Williams (cefn), yn perfformio yn Neuadd Ulster, Awst 1979.
Gwybodaeth gefndirol
Tarddiad Sydney, Awstralia
Blynyddoedd 1973–presennol
Label(i) recordio Albert, EMI, Columbia, Epic, Atlantic, Atco, Elektra, East West
Cysylltiedig Geordie, The Easybeats, Dio
Gwefan www.acdc.com
Aelodau
Angus Young
Malcolm Young
Brian Johnson
Cliff Williams
Phil Rudd
Cyn aelodau
Bon Scott
Simon Wright
Chris Slade
Mark Evans
Dave Evans

Band roc caled Awstralaidd a ffurfiwyd yn Sydney ym 1973 gan y brodyr Angus a Malcolm Young yw AC/DC. Er ystyrient fel arloeswyr metel trwm,[1][2] mae aelodau'r band wastad wedi disgrifio eu cerddoriaeth fel "roc a rôl".[3]

Bu nifer o newidiadau i drefniant AC/DC cyn iddynt rhyddhau eu halbwm cyntaf, High Voltage, ym 1975. Ni newidiodd yr aelodaeth tan i'r gitarydd bas Cliff Williams cymryd lle Mark Evans ym 1977. Ym 1979, recordiodd y band eu halbwm llwyddiannus iawn Highway to Hell. Bu farw'r prif ganwr a chyd-ysgrifennwr caneuon Bon Scott ar 19 Chwefror 1980, ar ôl noson o yfed trwm. Ystyriodd y band roi'r gorau iddi, ond yn fuan wedyn, cafodd Brian Johnson, cyn-ganwr Geordie ei ddewis i gymryd lle Scott. Yn hwyrach y flwyddyn honno, rhyddhaodd y band eu halbwm brig, Back in Black.

Roedd albwm nesaf y band, For Those About to Rock We Salute You, hefyd yn llwyddiannus iawn ac hwn oedd eu halbwm cyntaf i gyrraedd safle rhif-un yn yr Unol Daleithiau. Gostyngodd poblogrwydd AC/DC ar ôl i'r drymiwr Phil Rudd adael ym 1983. Parhaodd gwerthiannau recordiau isel nes i The Razors Edge gael ei ryddhau ym 1990. Dychwelodd Phil Rudd ym 1994 a chyfrannodd at yr albwm Ballbreaker, a ryddhawyd ym 1995. Rhyddhawyd Stiff Upper Lip ym 2000 a derbyniodd glod gan y beirniaid. Cyhoeddwyd albwm newydd y band, Black Ice, ym Mehefin 2008 a rhyddhawyd ar 20 Hydref 2008.

Mae AC/DC wedi gwerthu dros 200 miliwn o albymau yn fyd-eang,[4] gan gynnwys 71 miliwn o albymau yn yr Unol Daleithiau.[5] Amcangyfrifir i Back in Black werthu rhyw 42 miliwn o gopïau byd-eang[6] a 22 miliwn yn yr Unol Daleithiau yn unig.[7] Fe gynhwysir AC/DC yn bedwerydd ar restr VH1 o'r 100 Artist Roc Caled Gorau[8] ac yn seithfed ar restr MTV o'r Bandiau Metel Caled Gorau Erioed.[9]

Aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn-aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Albymau stiwdio[golygu | golygu cod y dudalen]

Clawr Back in Black
Teitl Rhyddhawyd
High Voltage (Awstralia) 1975
T.N.T. 1975
High Voltage (rhyngwladol) 1976
Dirty Deeds Done Dirt Cheap (Awstralia) 1976
Dirty Deeds Done Dirt Cheap (rhyngwladol) 1976
Let There Be Rock (Awstralia) 1977
Let There Be Rock (rhyngwladol) 1977
Powerage 1978
Highway to Hell 1979
Back in Black 1980
For Those About to Rock We Salute You 1981
Flick of the Switch 1983
'74 Jailbreak 1984
Fly on the Wall 1985
Who Made Who 1986
Blow Up Your Video 1988
The Razors Edge 1990
Ballbreaker 1995
Stiff Upper Lip 2000
Black Ice 2008

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "AC/DC". Encyclopædia Britannica Ultimate Reference Suite (2008). (24 Medi, 2007). Gol. Dale Hoiberg. ISBN 1-59339-292-3.
  2. "heavy metal". Encyclopædia Britannica Ultimate Reference Suite (2008). (24 Medi, 2007). Gol. Dale Hoiberg. ISBN 1-59339-292-3.
  3. Engleheart, Murray (18 Tachwedd, 1997). AC/DC - Bonfire
  4. (Saesneg) Mulvey, Paul (23 Hydref, 2003). Back to roots for AC/DC. Sydney Morning Herald. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
  5. (Saesneg) Top Selling Artists. Recording Industry Association of America. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
  6. (Saesneg) Record Breakers and Trivia: Albums. EveryHit. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
  7. (Saesneg) Top 100 Albums. Recording Industry Association of America. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
  8. (Saesneg) 100 Greatest Artists of Hard Rock. VH1.com. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
  9. (Saesneg) The Greatest Metal Bands Of All Time. MTV. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dome, Malcolm (1982). AC/DC. Proteus Books. ISBN 0-862-76011-9

Bunton, Richard (1983). AC/DC: Hell Ain't No Bad Place to Be. Omnibus Books. ISBN 0-711-90082-5

Holmes, Tim (1986). AC/DC (Monsters of Metal). Ballantine. ISBN 0-345-33239-3

Huxley, Martin (1996). AC/DC: The World's Heaviest Rock. Lightning Source Inc.. ISBN 0-312-30220-7

Stenning, Paul (2005). AC/DC: Two Sides to Every Glory. Chrome Dreams. ISBN 1-842-40308-7

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • (Saesneg) ACDC.com – gwefan swyddogol