Ewrop

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o'r byd yn dangos Ewrop
Delwedd cyfansawdd lloeren o Ewrop

Un o'r saith cyfandir yw Ewrop, sydd, yn yr achos hwn, yn fwy o gyfandir yn yr ystyr ddiwylliannol a gwleidyddol nag yn ffisioddaearyddol. Yn ffisegol ac yn ddaearegol, mae Ewrop yn isgyfandir neu'n benrhyn mawr, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf gorllewinol o Ewrasia. Ar y ffin i'r gogledd ceir y Cefnfor Arctig, i'r gorllewin Cefnfor Iwerydd ac i'r de ceir y Môr Canoldir a'r Cawcasws. Mae ffin Ewrop i'r dwyrain yn amhendant, ond yn draddodiadol ystyrir Mynyddoedd yr Wral a Môr Caspia i'r de-ddwyrain fel y ffin dwyreiniol. Ystyrir yr Wrals gan y rhan fwyaf o ddaearyddwyr fel y tirffurf daearyddol a tectonig sy'n gwahanu Asia oddi wrth Ewrop.

Ewrop yw'r cyfandir lleiaf ond un yn nhermau arwynebedd, sy'n cynnwys tua 10,790,000 km² (4,170,000 mi sg) neu 7.1% o arwynebedd y Ddaear, gyda Awstralia yn unig yn llai. Yn nhermau poblogaeth, dyma'r cyfandir trydydd mwyaf (mae Asia ac Affrica yn fwy) efo poblogaeth o dros 700,000,000, neu tua 11% o boblogaeth y byd.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mytholeg Roeg, roedd Europa yn dywysoges Ffeniciaidd a gafodd ei herwgipio gan Zeus mewn ffurf tarw a'i gymryd ganddo i ynys Creta, lle rhoddodd hi enedigaeth i Minos. I'r bardd Homer, roedd Europé (Groeg: Ευρωπη) yn frenhines fytholegol o Creta, yn hytrach na dynodiad daearyddol. Daeth Europa yn enw am dir mawr Groeg, ac erbyn 500 CC roedd ei ystyr wedi ehangu i gynnwys gweddill y cyfandir.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthyglau: Cynhanes Ewrop a Hanes Ewrop
Ieithoedd Ewrop
Rhanbarthau Ewrop
Ewrop ym 1000.

Rhannodd ffin ogleddol yr Ymerodraeth Rhufeinig y cyfandir ar hyd afonydd Rhein a Donaw am sawl canrif. Yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rhufeinig, syrthiodd rhan helaeth o Ewrop i'r Oesoedd Tywyll. Ond parhaodd gwareiddiad y Rhufeinwyr i flodeuo, ond ar ffurfiau newydd, mewn rhannau o dde Ewrop ac yn y de-dwyrain dan yr Ymerodraeth Fysantaidd. Yn raddol, troes yr Oesoedd Tywyll yn gyfnod goleuach a adnabyddir fel yr Oesoedd Canol. Blodeuodd dysg eto ond ar ffurf geidwadol a dueddai i edrych yn ôl i'r Byd Clasurol a'r Beibl. Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, cwncwerodd Ymerodraeth yr Otomaniaid ddinas Caergystennin (Istanbwl) - gan dod â diwedd yr Ymerodraeth Fysantaidd - a daeth yn bŵer pwysicaf Ewrop. Un canlyniad o hynny oedd y Dadeni, cyfnod o ddarganfyddiad, fforio a chynydd mewn gwybodaeth wyddonol. Yn ystod y bymthegfed ganrif agorodd Portiwgal yr oes o ddarganfyddiadau, efo Sbaen yn ei dilyn. Ymunodd Ffrainc, yr Iseldiroedd a Phrydain Fawr yn y ras i greu ymerodraethau trefedigaethol enfawr yn Affrica, yr Amerig, Asia ac Awstralasia.

Ar ôl yr oes o ddarganfyddiadau, dechreuodd cysyniadau democratiaeth gymryd drosodd yn Ewrop. Cafwyd nifer o frwydrau am annibyniaeth, er enghraifft yn Ffrainc yn ystod cyfnod y Chwyldro Ffrengig. Arweiniodd y cynydd hwn mewn democratiaeth i gynydd mewn tensiynau yn Ewrop ar ben y tensiynau oedd yn bodoli'n barod oherwydd cystadleuaeth â'r Byd Newydd. Y gwrthdaro mwyaf enwog oedd hwnnw pan daeth Napoleon Bonaparte i rym a dechrau ar gyfres o oresgyniadau a ffurfiodd yr Ymerodraeth Ffrengig, ac wedyn cwympo'n fuan iawn. Ar ôl y concwestau yma, ymsadrodd Ewrop, ond mi oedd yr hen sefydliadau eisoes yn ddechrau cwympo.

Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain Fawr yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif, ac arweiniodd hyn at symud i ffwrdd o amaeth, mwy o ffyniant economaidd a chynydd cyfatebol mewn poblogaeth. O ddiwedd yr Ail Ryfel Byd tan ddiwedd y Rhyfel Oer, rhannwyd Ewrop yn ddau brif bloc gwleidyddol ac economaidd: y gwledydd Comiwnyddol yn Nwyrain Ewrop (ac eithrio Twrci a Gwlad Groeg) a gwledydd cyfalafol Gorllewin a De Ewrop. O gwmpas 1990, yn ddilyn cwymp Wal Berlin, chwalodd y Bloc Dwyreiniol.

Daearyddiaeth Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Ewrop

Yn daearyddol mae Ewrop yn rhan o'r ehangdir fwy a elwir yn Ewrasia. Mae'r cyfandir yn dechrau ym Mynyddoedd yr Wral yn Rwsia, sy'n diffinio'r ffin rhwng dwyrain Ewrop ac Asia. Nid yw'r ffin dde-ddwyreiniol ag Asia yn cael ei diffinio'n gyffredinol; gan amlaf mae Afon Wral neu, fel arall, Afon Emba, yn cael ei disgrifio fel ffin y cyfandir yn yr ardal yma. Mae'r ffin yn parhau â Môr Caspia, ac yna Afon Araxes yn y Cawcasws, ac ymlaen i'r Môr Du; mae'r Bosphorus, Môr Marmara, a'r Dardanelles yn diweddu'r ffin ag Asia. Mae Môr y Canoldir i'r de yn gwahanu Ewrop ac Affrica. Y Cefnfor Iwerydd sy'n ffurfio'r ffin orllewinol, ond mae Gwlad yr Iâ, sydd llawer pellach i ffwrdd na'r pwyntiau agosaf i'r cyfandir yn Affrica ac Asia, fel arfer yn cael ei chynnwys yn Ewrop.

Gwledydd Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwladwriaethau annibynnol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyrir y gwladwriaethau annibynnol canlynol i fod yn Ewrop:

       

1 Nid yw Armenia a Cyprus yn rhan o Ewrop yn ddaearyddol, ond gellir eu ystyried yn Ewropeaidd yn diwylliannol.
2 Mae gan Aserbaijan and Georgia tir yn Ewrop i'r gogledd o frig y Cawcasws a'r Afon Kura.
3 Lleolir rhai rhannau o Ffrainc tu fas i Ewrop (megis Guadeloupe, Martinique, Guyane Ffrengig a Réunion).
4 Mae gan Rwsia a Casachstan tir yn Ewrop i'r gorllewin o Mynyddoedd yr Wral ac yr Afonydd Wral ac Emba.
5 Mae enw'r wlad yma yn dadl ryngwladol.
6 Mae gan yr Iseldiroedd dwy endid tu fas i Ewrop (Arwba ac Antilles yr Iseldiroedd, yn y Caribi).
7 Lleolir Ynysoedd Madeira Portiwgal yng ngogledd y Cefnfor Iwerydd yn agos i tir mawr Affrica.
8 Lleolir Ynysoedd Dedwydd Sbaen yng ngogledd y Cefnfor Iwerydd; lleolir plazas de soberanía (allglofannau) ar tir mawr Affrica.
9 Mae gan Twrci tir yn Ewrop i'r gorllewin a'r gogledd o'r Bosphorus a'r Dardanelles.

Tabl o wladwriaethau, tiriogaethau a rhanbarthau Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Enw tiriogaeth,
efo baner
Arwynebedd
(km²)
Poblogaeth
(1 Gorffennaf 2002 amcan.)
Dwysedd poblogaeth
(per km²)
Prifddinas
Dwyrain Ewrop:
Flag of Belarus.svg Belarws 207,600 10,335,382 49.8 Minsk
Flag of Bulgaria.svg Bwlgaria 110,910 7,621,337 68.7 Sofia
Flag of Hungary.svg Hwngari 93,030 10,075,034 108.3 Budapest
Flag of Moldova.svg Moldofa 33,843 4,434,547 131.0 Chisinau
Flag of Poland.svg Gwlad Pwyl 312,685 38,625,478 123.5 Warsaw
Flag of Romania.svg Romania 238,391 21,698,181 91.0 Bucharest
Flag of Russia.svg Rwsia 3,960,000 106,037,143 26.8 Moscow
Flag of Slovakia.svg Slofacia 48,845 5,422,366 111.0 Bratislava
Flag of the Czech Republic.svg Gweriniaeth Tsiec 78,866 10,256,760 130.1 Praha
Flag of Ukraine.svg Wcrain 603,700 48,396,470 80.2 Kiev
Gogledd Ewrop:
Flag of Denmark.svg Denmarc 43,094 5,368,854 124.6 Copenhagen
Flag of the United Kingdom.svg Y Deyrnas Unedig 244,820 59,778,002 244.2 Llundain
Flag of Estonia.svg Estonia 45,226 1,415,681 31.3 Tallinn
Flag of the Faroe Islands.svg Ynysoedd Ffaroe (Denmarc) 1,399 46,011 32.9 Tórshavn
Flag of Finland.svg Y Ffindir 337,030 5,183,545 15.4 Helsinki
Flag of Guernsey.svg Ynys y Garn 78 64,587 828.0 St Peter Port
Flag of Iceland.svg Gwlad yr Iâ 103,000 279,384 2.7 Reykjavík
Flag of Ireland.svg Iwerddon 70,280 3,883,159 55.3 Dulyn
Flag of Jersey.svg Jersey 116 89,775 773.9 Saint Helier
Flag of Latvia.svg Latfia 64,589 2,366,515 36.6 Riga
Flag of Lithuania.svg Lithwania 65,200 3,601,138 55.2 Vilnius
Flag of Norway.svg Norwy 324,220 4,525,116 14.0 Oslo
Flag of Norway.svg Ynysoedd Svalbard a
Jan Mayen
(Norwy)
62,049 2,868 0.046 Longyearbyen
Flag of Sweden.svg Sweden 449,964 8,876,744 19.7 Stockholm
Flag of the Isle of Mann.svg Ynys Manaw 572 73,873 129.1 Douglas
De Ewrop:
Flag of Albania.svg Albania 28,748 3,544,841 123.3 Tirana
Flag of Andorra.svg Andorra 468 68,403 146.2 Andorra la Vella
Flag of Bosnia and Herzegovina.svg Bosnia-Hertsegofina 51,129 3,964,388 77.5 Sarajevo
Flag of Croatia.svg Croatia 56,542 4,390,751 77.7 Zagreb
Flag of Italy.svg Yr Eidal 301,230 57,715,625 191.6 Rhufain
Flag of the Vatican City.svg Dinas y Fatican 0.44 900 2,045.5 Dinas y Fatican
Flag of Gibraltar.svg Gibraltar (DU) 5.9 27,714 4,697.3 Gibraltar
Flag of Greece.svg Gwlad Groeg 131,940 10,645,343 80.7 Athen
Flag of Macedonia.svg Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia 25,333 2,054,800 81.1 Skopje
Flag of Malta.svg Malta 316 397,499 1,257.9 Valletta
Flag of Montenegro.svg Montenegro 13,812 616,258 48.7 Podgorica
Flag of Portugal.svg Portiwgal 91,568 10,084,245 110.1 Lisbon
Flag of San Marino.svg San Marino 61 27,730 454.6 San Marino
Flag of Spain.svg Sbaen 498,506 40,077,100 80.4 Madrid
Flag of Serbia.svg Serbia 88,361 9,598,000 96.7 Beograd
Flag of Slovenia.svg Slofenia 20,273 1,932,917 95.3 Ljubljana
Gorllewin Ewrop:
Flag of Germany.svg Yr Almaen 357,021 83,251,851 233.2 Berlin
Flag of Austria.svg Awstria 83,858 8,169,929 97.4 Fienna
Flag of Belgium.svg Gwlad Belg 30,510 10,274,595 336.8 Brwsel
Flag of France.svg Ffrainc 547,030 59,765,983 109.3 Paris
Flag of the Netherlands.svg Yr Iseldiroedd 41,526 16,318,199 393.0 Amsterdam, Den Haag
Flag of Liechtenstein.svg Liechtenstein 160 32,842 205.3 Vaduz
Flag of Luxembourg.svg Lwcsembwrg 2,586 448,569 173.5 Lwcsembwrg
Flag of Monaco.svg Monaco 1.95 31,987 16,403.6 Monaco
Flag of Switzerland.svg Y Swistir 41,290 7,301,994 176.8 Bern
Gorllewin Asia:
Flag of Armenia.svg Armenia 29,800 Yerevan
Flag of Azerbaijan.svg Aserbaijan 39,730 4,198,491 105.7 Baku
Flag of Cyprus.svg Cyprus 5,995 780,133 130.1 Nicosia (Lefkosa)
Flag of Georgia.svg Georgia 49,240 2,447,176 49.7 Tbilisi
Flag of Turkey.svg Twrci 724,378 71,044,932 453.1 Ankara
Canolbarth Asia:
Flag of Kazakhstan.svg Casachstan 370,373 1,285,174 3.4 Astana
Cyfanswm 10,431,299 709,022,061 68.0

Gwelwch hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfandiroedd y Ddaear

LocationAfricaEurasia.png
Affrica-Ewrasia
LocationAmericas.png
Yr Amerig
LocationEurasia.png
Ewrasia

LocationAfrica.png
Affrica
LocationAntarctica.png
Antarctica
LocationAsia.png
Asia
Location of Europe.svg
Ewrop
LocationNorthAmerica.png
Gogledd America
LocationSouthAmerica.png
De America
LocationOceania.png
Oceania

Uwchgyfandiroedd daearegol :  Gondwana · Lawrasia · Pangaea · Pannotia · Rodinia · Colwmbia · Kenorland · Ur  · Vaalbara


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Ewrop
yn Wiciadur.