Basilica San Martin de Mondoñedo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Basilica San Martiño de Mondoñedo, yng Ngalisia.

Eglwys yn nhref Foz, Galisia, yw Basilica San Martin de Mondoñedo. Hon yw eglwys gadeiriol hynaf Galisia a Sbaen. Mae Galisia'n wlad gyda pheth annibyniaeth, ac a elwir yn 'rhanbarth ymreolaethol'. Yn y 9fed ganrif, roedd yma ddau esgob. Heddiw, yn ogystal a bod yn fan i addoli, mae hefyd yn amgueddfa.[1]

Ond i'r 11eg ganrif mae'r adeilad presennol yn dyddio, ac fe'i hadeiladwyd mewn dull Romanésg, o ran pensaernïaeth. Cafodd Basilica San Martin de Mondoñedo ei hatgyfnerthu gan fwtresi yn y 18fed ganrif. Ers 1931 fe'i dynodwyd fel adeilad cofrestredig BIC ac yn 2007 fe'i uwchraddiwyd i fod yn 'fasilica'.[2] [3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth (amlieithog)[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Isidro Bango Torviso, Joaquín Yarza Luaces ac eraill, El Arte románico en Galicia y Portugal / A arte Românica em Portugal e Galiza, Fundación Pedro Barrié de la Maza, 2001, t. 14.
  • Castillo, Ángel del (1987) [1972]. Fundación Pedro Barrié de la Maza, gol. Inventario Monumental y Artístico de Galicia (Inventario de la riqueza monumental y artística de Galicia)[1] (ail argraffiad). A Coruña. tt. 335–336. ISBN 84-85728-62-9.
  • Hipólito de Sá. Monasterios de Galicia, Everest, 1983, tt. 44–50.
  • Villa-amil y Castro, José (ffacsmili: 2005) 1904. Imprenta de San Francisco de Sales (ffacsimili: Gol. Órbigo, A Coruña), gol. Iglesias gallegas de la Edad Media, colección de artículos publicados por (en castelán). Madrid. t. 410. ISBN 84-934081-5-8.