Apeldoorn
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn nhalaith Gelderland yn yr Iseldiroedd yw Apeldoorn. Saif tua 60 km i'r de-ddwyrain o Amsterdam. Roedd y bobolgaeth yn 2007 yn 136,208.
Ceir cyfeiriad ar Apelddorn dan ei hen enw, Appoldro, o'r 8fed ganrif. Tyfodd lle mae'r hen ffordd o Amersfoort i Deventer yn croesi'r ffordd o Arnhem i Zwolle. Gerllaw mae Het Loo, palas yn perthyn i'r teulu brenhinol.