Oblast Tyumen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Oblast Tyumen.
Lleoliad Oblast Tyumen yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Tyumen (Rwseg: Тюме́нская о́бласть, Tyumenskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Tyumen. Mae gan yr oblast reolaeth gyfreithiol ar ddau okrug ymreolaethaol, sef Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi ac Ocrwg Ymreolaethol Yamalo-Nenets, sy'n gorwedd i'r gogledd yn ardal Arctig Rwsia. Poblogaeth: 3,395,755 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Ural, ond yn ddaearyddol mae'n rhan o orllewin Siberia.

Sefydlwyd Oblast Tyumen ar 14 Awst 1944, yn yr hen Undeb Sofietaidd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.