Sbaen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Reino de España
Teyrnas Sbaen
Baner Sbaen Arfbais Sbaen
Baner Arfbais
Arwyddair: Plus Ultra : Ymhellach eto
Anthem: Marcha Real
Ymdeithgan frenhinol
Lleoliad Sbaen
Prifddinas Madrid
Dinas fwyaf Madrid
Iaith / Ieithoedd swyddogol Sbaeneg (Castileg) 1
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
 • Brenin Felipe VI
 • Prif Weinidog Mariano Rajoy Brey
Formation
 •Dynastic Union
 •Uniad
  •de facto
  •de jure

1516

1716
1812
Esgyniad i'r UE 1 Ionawr 1986
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
504,782 km² (50fed)
1.04
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 2001
 - Dwysedd
 
40,847,371 (29fed)
44,187,127
87.2/km² (84fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$1.014 triliwn (12fed)
$26,320 (25fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.928 (21af) – uchel
Arian cyfred Euro (€) 2 (EUR)
Cylchfa amser
 - Haf
CET 3 (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .es
Côd ffôn +34
1 Yn nifer o gymunedau ymreolaethol, mae Catalaneg¹, Basgeg neu Galiseg hefyd yn ieithoedd swyddogol. Yn Catalonia mae gan Araneg (tafodaith Gascon) statws arbennig.

2 Cyn 1999: Peseta Sbaenaidd

3 ac eithrio yn yr Ynysoedd Canaria: GMT

Gwlad yn ne-orllewin Ewrop yw Teyrnas Sbaen neu Sbaen (Sbaeneg: Reino de España neu España). Mae'n rhannu gorynys Iberia gyda Gibraltar a Phortiwgal, ac mae'n ffinio â Ffrainc ac Andorra yn y gogledd. Madrid yw'r brifddinas. Felipe VI yw brenin Sbaen.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Sbaen

Mae Sbaen yn wlad yn ne-orllewin Ewrop sy'n llenwi'r rhan fwyaf o orynys Iberia. Mae hi'n ffinio â Portiwgal i'r gorllewin, Gibraltar i'r de, a Ffrainc ac Andorra i'r gogledd dros y Pyreneau. Mae dinasoedd Sbaen yng ngogledd yr Affrig (Ceuta a Melilla) yn ffinio â Moroco.

Ceir llawer o lwyfandiroedd uchel a mynyddoedd fel y Sierra Nevada. Rhed sawl afon o'r ucheldiroedd, Afon Tajo, Afon Ebro, Afon Duero, Afon Guadiana a Guadalquivir, er enghraifft.

Hanes Sbaen[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Sbaen

Dechreua 'hanes Sbaen gyda dyfodiad Homo sapiens i Benrhyn Iberia a'r diriogaeth sy'n awr yn Sbaen tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddarach, meddianwyd y diriogaeth yn eu tro gan y Celtiaid, y Ffeniciaid a'r Groegiaid. Dechreuodd Gweriniaeth Rhufain feddiannu Sbaen yn y drydedd ganrif CC, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan bwysig o'r Ymerodraeth Rufeinig. Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, meddiannwyd Sbaen gan y Fisigothiaid. Yn 711 ymosodwyd ar y deyrnas Fisigothig gan fyddin Islamaidd, a chyn pen ychydig flynyddoedd roedd bron y cyfan o Sbaen ym meddiant dilynwyr Islam, heblaw am ran fechan yn y gogledd. Dan yr enw Al-Andalus, datblygodd Sbaen Islamaidd ei diwylliant unigryw ei hun yn ystod y 750 mlynedd nesaf.

Yn rhannol oherwydd ymraniadau'r Mwslimiaid, gallodd y Cristionogion yn y gogledd ddechrau proses o adennill tiriogaeth, a elwir y Reconquista, a ddaeth i ben pan orchfygwyd y deyrnas Islamaidd olaf, Teyrnas Granada. Gyda chwymp dinas Granada yn 1492 dechreuodd cyfnod newydd yn hanes Sbaen, oherwydd yr un flwyddyn hwyliodd Christopher Columbus i'r Byd Newydd. Hyn oedd dechrau Ymerodraeth Sbaen; goresgynnwyd Mexico gan Hernando Cortés (1485 - 1547), a goresgynnodd Francisco Pizarro (1476 - 1541) diriogaeth Periw gan ddinistrio Ymerodraeth yr Inca. Meddiannwyd rhannau helaeth o ganolbarth a de America gyda rhai meddiannau yn Asia ac Affrica hefyd.

Dechreuodd nerth milwrol Sbaen edwino yn y 18fed ganrif, ac yn nechrau'r 19eg ganrif rhoddodd Napoleon ei frawd José Bonaparte ar orsedd Sbaen. Bu gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y Ffrancod, a chyda chymorth byddin Brydeinig gyrrwyd hwy o'r wlad. Dilynwyd hyn gan gyfnod o ansefydlogrwydd, a chollodd Sbaen ei meddiannau tramor.

Yn 1936 dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, a arweiniodd at fuddugoliaeth Francisco Franco, a fu'n rheoli Sbaen fel unben hyd ei farwolaeth yn 1975. Wedi ei farwolaeth ef, daeth y brenin Juan Carlos I i'r orsedd, a chytunwyd ar gyfansoddiad democrataidd yn 1978. Ymunodd Sbaen a'r Undeb Ewropeaidd, a gwelwyd tŵf economaidd sylweddol. Yn 2002 derbyniwyd yr Euro fel arian.

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 1 Ionawr 2008, roedd poblogaeth Sbaen yn 46,063,511 yn ôl yr Instituto Nacional de Estadística (INE). Sbaen yw'r bumed wlad yn yr Undeb Ewropeaidd o ran poblogaeth, ond mae dwysder y boblogaeth yn gymharol isel, 91.2 person/km sgwar.

Fel llawer o wledydd Ewrop, mae'r boblogaeth yn tueddu i heneddio; yn 2006 roedd cyfartaledd oedran trigolion Sbaen yn 40.2. Roedd 14.3% o'r boblogaeth dan 15 oed, 69,0% rhwng 15 a 64, a 16.7% dros 65. I raddau, mae mewnfudiad wedi gwrthweithio'r duedd yma. Yn 2005, roedd disgwyliad bywyd yn Sbaen yn 80.2 ar gyfartaledd; 77.0 i ddynion a 83.5 i ferched.

Mae dwysder y boblogaeth yn uwch o gwmpas yr arfordir ac o amgylch Madrid. Yng nghanol y wlad, mae diboblogi yn broblem yn yr ardaloedd gwledig (mae llawer o bentrefi wedi'u gadael).

Dinasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Madrid
Plaza Catalunya, Barcelona

Yr ardaloedd dinesig mwyaf o ran poblogaeth yw:

Poblogaeth Ynysoedd Sbaen[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr ynysoedd gyda'r boblogaeth fwyaf yw:

Yn ôl cyfrifiad 2006, roedd 9.27 o boblogaeth Sbaen yn dramorwyr. Roedd y mwyafrif o America Ladin (36.21%), Gorllewin Ewrop (21.06%), Dwyrain Ewrop (17.75%) a'r Magreb (14.76%).

Crefydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llywodraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llywodraeth Sbaen
Searchtool.svg
Prif erthygl: Cymunedau ymreolaethol Sbaen

Rhennir y wlad yn nifer o Gymunedau ymreolaethol ("Comunidades autonomas" yn Sbaeneg).


Cymunedau ymreolaethol
Poblogaeth
(2000)
Poblogaeth
(2005)
Andalucía 7.340.052 7.829.202
Aragón 1.189.909 1.266.972
Asturias 1.076.567 1.074.504
Ynysoedd Balearig 845.630 980.472
Canarias (Ynysoedd Dedwydd) 1.716.276 1.962.193
Cantabria 531.159 561.638
Castilla-La Mancha 1.734.261 1.888.527
Castilla y León 2.479.118 2.501.534
Catalwnia 6.261.999 6.984.196
Comunidad Valenciana 4.120.729 4.672.657
Extremadura 1.069.420 1.080.823
Galicia 2.731.900 2.760.179
Comunidad de Madrid 5.205.408 5.921.066
Murcia 1.149.329 1.334.431
Navarra 543.757 592.482
Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg 2.098.596 2.123.791
La Rioja 264.178 300.685
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta 75.241 74.771
Melilla 66.263 65.252

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Gwledydd y Môr Canoldir
Yr Aifft | Albania | Algeria | Bosnia a Hertsegofina | Croatia | Cyprus | Yr Eidal | Ffrainc | Gwlad Groeg | Israel | Libanus | Libya | Malta | Monaco | Montenegro | Moroco | Palesteina | Sbaen | Slofenia | Syria | Tunisia | Twrci




Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Sbaen
yn Wiciadur.


Flag of Spain.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato