Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tŷ'r Cyffredin Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
55ed Llywodraeth y DU
Coat of arms or logo
Math
Math Y Tŷ Isaf Tŷ'r Cyffredin Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
Arweinyddiaeth
Llefarydd y Tŷ John Bercow
ers 22 Mehefin 2009
Arweinydd William Hague, Ceidwadwyr
ers 14 July 2014
Arweinydd yr Wrthblaid Angela Eagle, Llafur
ers 7 Hydref 2011
Strwythur
Aelodau 650
House of Commons 2015 elections.svg
Grwpiau gwleidyddol

Llywodraeth y DU

Yr Wrthblaid

Other Opposition

Speaker

Hyd tymor Mwyafr. o 5 mlynedd
Etholiadau
System bleidleisio Y cyntaf i'r felin
Etholiad diwethaf 7 Mai 2015
Etholiad nesaf 8 Mai 2020
Newid ffiniau Y Comisiwn Ffiniau
Man cyfarfod
House of Commons.jpg
Siambr Tŷ'r Cyffredin
Palas San Steffan
Dinas San Steffan
Llundain
Y Deyrnas Unedig
Gwefan
Tŷ'r Cyffredin

Siambr isaf Senedd y Deyrnas Unedig yw Tŷ'r Cyffredin. Mae'n cynnwys 650 o aelodau (aelodau seneddol neu ASau), wedi'u hethol drwy system 'cyntaf i'r felin' bob pum mlynedd neu yn gynharach os datodir y tŷ gan y prif weinidog ynghynt na hynny. John Bercow yw'r Llefarydd presennol.

Seddi Tŷ'r Cyffredin

Sefydlwyd Tŷ Cyffredin Lloegr rywbryd yn y 14eg ganrif gan newid ei henw i 'Dŷ' Cyffredin Prydain Fawr' wedi uno'r Alban a Lloegr yn 1707, a newid unwaith eto yn y 19eg ganrif i 'Tŷ'r Cyffredin Prydain Fawr ac Iwerddon' wedi'r Ddeddf Uno gydag Iwerddon. Bathwyd y term presennol yn 1922.

Dan Ddeddf 1911, lleihawyd grym Tŷ'r Arglwyddi i wrthod penderfyniadau Tŷ'r Cyffredin. Mae'r Llywodraeth yn swyddogol yn ddarostyngedig i Dŷ'r Arglwyddi - o ran cyfrifoldeb.

Erys y Prif Weinidog yn ei swydd tra bod ganddo/i gefnogaeth mwyafrif aelodau Tŷ'r Cyffredin. Rhoddir sêl bendith ar y Prif Weinidogaeth gan Frenhines y DU; mae'r person hwn fel arfer yn arweinydd y blaid fwyaf, ond nid o angenrheidrwydd. Gelwir arweinydd yr ail blaid fwyaf yn 'Arweinydd Gwrthblaid Ei Mawrhydi'. Ers 1963, drwy gonfensiwn, mae'r Prif Weinidog yn aelod o Dŷ'r Cyffredin yn hytrach na Thŷ'r Arglwyddi.

Daw'r enw 'Cyffredin' (neu 'commons') o'r gair Saesneg communes, sef gwahanol 'gymunedau' oddi fewn i'r Tŷ.[2]


Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Current State of the Parties – UK Parliament. Adalwyd 12 Mawrth 2015.
  2. Pollard, A.F. (1920). The Evolution of Parliament. Longmans. tud. 107–08.
Palace of Westminster - 01.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.