Eidaleg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eidaleg
Italiano, Lingua italiana
Ynganiad IPA [itaˈljaːno]
Siaredir yn Yr Eidal, San Marino, Malta, Y Swistir, Y Fatican, Slofenia (Istria Slofenaidd), Croatia (Swydd Istria), yr Ariannin, Brasil
Rhanbarth (fe'i gwyddys gan lawer o bobl hŷn a sectorau masnachol yn Somalia, Eritrea, a Libia; fe'i defnyddir yn y Senedd Ffederal Rhyngbarthol yn Somalia)
Cyfanswm siaradwyr 62 miliwn o bobl, sy'n frodorol a brodorol-ddwyieithog
Cyfanswm: 80 miliwn;[1]
85 miliwn yn ôl pob math[1]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Lladin (Yr wyddor Eidaleg)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn  European Union
Baner Yr Eidal Yr Eidal
 Y Swistir
Baner San Marino San Marino
 Vatican City
Baner Croatia Croatia (Swydd Istria)
Baner Slofenia Slofenia (Istria Slofenaidd)
Rheoleiddir gan nid yn swyddogol gan Accademia della Crusca
Codau ieithoedd
ISO 639-1 it
ISO 639-2 ita
ISO 639-3 ita
Wylfa Ieithoedd 51-AAA-q

Eidaleg (Italiano) yw iaith Yr Eidal, San Marino, Swistir a'r Fatican. Yn ôl ystadegau yr Undeb Ewropeaidd, siaredir Eidaleg fel mamiaith gan 65 miliwn o bobl yn yr UE (13% o boblogaeth yr UE), yn Yr Eidal yn bennaf, ac fel ail iaith gan 14 miliwn o bobl (3%)[1]. Gan gynnwys siaradwyr Eidaleg mewn gwledydd nac ydynt yn rhan o'r UE (megis Y Swistir ac Albania) ac ar gyfandiroedd eraill, mae yna dros 85 miliwn o bobl yn siarad yr iaith.

Ymadroddion cyffredin[golygu | golygu cod y dudalen]

  • italiano : Eidaleg
  • gallese : Cymraeg
  • inglese : Saesneg
  • 'salve! : helô! / hwyl fawr! (Gallwch ddweud salve! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
  • ciao!: shwmâi! / hwyl! (yn debyg i salve! ond yn anffurfiol)
  • saluti! : cyfarchion! (yn debyg i salve! ond yn fwy ffurfiol)
  • come sta? : sut mae?
  • buongiorno!: bore da!
  • buonasera! : p'nawn da! / noswaith dda!
  • arrivederci!: da boch chi! / Hwyl fawr!
  • buona notte! : nos da!
  • mi scusi! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
  • permesso! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
  • prego? : esgusodwch fi? (os ydych chi ddim wedi deall)
  • per favore / per piacere: os gwelwch chi'n dda
  • grazie: diolch
  • no grazie : dim diolch!
  • molte grazie / tante grazie : diolch yn fawr
  • prego! : da chi! (pan fydd rhywun yn dweud grazie!, atebwch gyda prego!.)
  • mi dispiace: mae'n flin gen i
  • sì : ïe / do / oes ayyb.
  • no : nage / naddo / nag oes ayyb.
  • salute! / cin cin!: Iechyd da!
Eidaleg yn y byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wikipedia
Argraffiad Eidaleg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Eidaleg
yn Wiciadur.


Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.