Belarws

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Рэспубліка Беларусь
Республика Беларусь

Gweriniaeth Belarws
Baner Belarws Arwyddlun Cenedlaethol Belarws
Baner Arwyddlun Cenedlaethol
Arwyddair: Dim
Anthem: My Belarusy "Ni, Felarwsiaid"
Lleoliad Belarws
Prifddinas Minsk
Dinas fwyaf Minsk
Iaith / Ieithoedd swyddogol Belarwseg, Rwseg
Llywodraeth Gweriniaeth
Arlywydd Alexander Lukashenko
Prif Weinidog Mikhail Myasnikovich
Annibyniaeth

•Datganwyd
•Cydnabuwyd
Oddiwrth yr Undeb Sofietaidd
Gorffennaf 1991
25 Rhagfyr 1991
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
207,600 km² (93fed)
-
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 1999
 - Dwysedd
 
10,293,011 (79fed)
10,045,237
49/km² (143fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$79.13 biliwn (64fed)
$7,700 (78fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.794 (67fed) – canolig
Arian cyfred Rouble (BYR)
Cylchfa amser
 - Haf
EET (UTC+2)
EEST (UTC3)
Côd ISO y wlad .by
Côd ffôn +375

Gweriniaeth dirgaeëdig yn nwyrain Ewrop yw Belarws (hefyd Belarws, Belarŵs neu Rwsia Wen; Belarwseg a Rwseg: Беларусь). Mae'n ffinio â Rwsia i'r dwyrain, ag Wcrain i'r de, â Gwlad Pwyl i'r gorllewin, ac â Lithwania a Latfia i'r gogledd. Minsk yw ei phrifddinas – mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys Brest, Grodno, Gomel, Mogilev, Vitebsk a Bobruisk. Coedwigir un traean o'r wlad, ac mae amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yn ganolog i'r economi. Belarws yw un o’r gwledydd yr effeithwyd yn fwyaf difrifol arni gan ymbelydredd niwclear o ddamwain atomfa Chernobyl o 1986 yn Wcrain.

Yn ystod ei hanes, bu rhannau Belarws dan reolaeth sawl gwlad, gan gynnwys Dugiaeth Polatsk, Archddugiaeth Llethaw, Cymanwlad Gwlad Pwyl-Llethaw, ac Ymerodraeth Rwsia. Daeth Belarws yn weriniaeth Sofietaidd ym 1922. Datganodd y weriniaeth ei sofraniaeth ar 27 Gorffennaf 1990. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, datganodd Belarws ei hannibyniaeth yn swyddogol ar 25 Awst 1991. Alexander Lukashenko yw arlywydd y wlad ers 1994. Yn ystod ei reolaeth, mae Lukashenko wedi gweithredu polisïau y cyfnod Sofietaidd, er gwaethaf gwrthwynebiadau oddi wrth bwerau gorllewinol. Mae Belarws yn trafod gyda Rwsia i uno'r ddwy wlad yn un wladwriaeth a elwir yn Undeb Rwsia a Belarws, er bod y trafodaethau yn stolio ers sawl blwyddyn.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Belarws

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Belarws

Rhanbarth y dalaith mawr Kievan Rus' oedd Belarws, tan y farwolaeth y Brenin Yaroslav I "y Doeth" ym 1054.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Gwleidyddiaeth Belarws

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Belarws

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Belarws
Flag of Belarus.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Felarws. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.