Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Napoloen
Ymerawdwr Ffrainc
Jacques-Louis David - The Emperor Napoleon in His Study at the Tuileries - Google Art Project.jpg
Geni:
 
15 Awst 1769
   Ajaccio, Corsica (Ffrainc)
Marw:
 
5 Mai 1821
   Saint Helena

Yr oedd Napoleone Buonaparte (yn wreiddiol, yn Eidaleg a Chorseg) neu Napoléon Bonaparte yn Ffrangeg), neu Napoleon I ar ôl 1804, (15 Awst 1769 - 5 Mai 1821) yn rheolwr Ffrainc o 1799; daeth i gael ei gydnabod fel Ymerawdwr Cyntaf Ffrainc o dan yr enw Napoléon I le Grand (Napoleon I "y Mawr") o 18 Mai 1804 hyd 6 Ebrill 1814, cyfnod pan reolai ran fawr o orllewin a chanolbarth Ewrop yn ogystal â Ffrainc. Apwyntiodd nifer o'i berthnasau, o'r teulu Bonaparte, i reoli fel yn brenhinoedd mewn gwledydd eraill, ond daeth rheolaeth y mwyafrif ohonyn i ben pan gwympodd Napoleon o rym.

Cafodd ei eni yn Ajaccio, Corsica, yn fab y cyfreithiwr Nobile Carlo Buonaparte a'i wraig, Letizia Ramolino.

Rhoddir yr enw Rhyfeloedd Napoleon i gyfres o ryfeloedd yn Ewrop rhwng 1804 a 1815. Ymladdwyd y rhyfeloedd rhwng Ffrainc dan Napoleon a nifer o wledydd, yn cynnwys Prydain Fawr, Rwsia, Awstria, Prwsia, Sbaen ac eraill a ffurfiwyd sawl cynghrair gwahanol yn erbyn Napoleon.

Bu farw Napoleon ar ynys Saint Helena yn ne Cefnfor Iwerydd.

Cysylltiad â Chymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1828 llongddryllwyd y llong La Jeune Emma ar draeth Cefn Sidan, ger Llanelli a boddwyd Adeline Coquine, nith 12 oed Josephine de Beauharnais, cyn-wraig Napoleon Bonaparte. Claddwyd hi ym mynwent Pen-bre.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhagflaenydd:
Louis XVI
Ymerawdwr Ffrainc
18 Mai 18046 Ebrill 1814
Olynydd:
Louis XVIII
fel Brenin Ffrainc a Navarre
Rhagflaenydd:
Ffransis II
Brenin yr Eidal
26 Mai 18041814
Olynydd:
Dim
(o 1861
Vittorio Emanuele II)
Rhagflaenydd:
Louis XVIII
fel Brenin Ffrainc a Navarre
Ymerawdwr Ffrainc
23 Mawrth 181522 Mehefin 1815
Olynydd:
Napoleon II







Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.