Bosphorus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Bosphorus o'r gofod

Bosphorus neu Bosporus[1] (Twrceg: Karadeniz Bogazi "Culfor y Môr Du") yw'r enw ar y culfor yn Nhwrci sy'n gorwedd rhwng Ewrop ac Asia Leiaf ac yn cysylltu Môr Marmara a'r Môr Canoldir â'r Môr Du. Ei hyd yw tua 30 km (19 milltir) a'i led yn amrywio o 0.6 i 4 km (0.4-2.5 milltir). Saif dinas hynafol Istanbul (Caergystennin gynt) ar ei lannau. Saif dwy bont ar draws y culfor yn Istanbul. Mae pont Bosphorus (cwblhawyd yn 1973) yn 1074 m o hyd a phont Ratih Sultan Mehmet (cwblhawyd yn 1988) yn 1090 m o hyd ac yn un o bontydd mwyaf Ewrop ac Asia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 57.
Flag Turkey template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.