Lübeck
Oddi ar Wicipedia
Lübeck | |
---|---|
Lleoliad yn yr Almaen | |
Gwlad | Yr Almaen |
Llywodraeth | |
Maer | Bernd Saxe |
Daearyddiaeth | |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 211713 (Cyfrifiad 2012) |
Dwysedd Poblogaeth | 990 /km2 |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | CET (UTC+1),
Haf: CEST (UTC+2) |
Gwefan | http://www.luebeck.de |
Dinas yn nhalaith Schleswig-Holstein yng ngogledd yr Almaen yw Lübeck. Hi yw ail ddinas y dalaith o ran poblogaeth, gyda phoblogaeth o 213,983 yn 2005. Cyhoeddwyd canol hanesyddol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1987.
Sefydlwyd Lübeck fel Liubice gan y Slafiaid yn yr 8fed ganrif, ond yn 1138 llosgwyd hi. Yn 1143, ail-sefydlwyd y ddinas gan y tywysog Almaenig Adolf II o Holstein. Gwnaed hi yn ddinas rydd o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig gan yr ymerawdwr Ffrederic II yn 1226.
Datbygodd Lübeck i fod yn ddinas bwysicaf y Cynghrair Hanseataidd ac yn brifddinas answyddogol y Cynghrair. Yn 1937, dan Adolf Hitler, collodd y ddinas ei hanibyniaeth a dod yn rhan o dalaith Schleswig-Holstein.
Pobl enwog o Lübeck[golygu | golygu cod y dudalen]
- Heinrich Mann, awdur
- Thomas Mann, awdur
- Paul Helwig, seicolegydd a dramodydd
- Willy Brandt, gwleidydd, Canghellor Gorllewin yr Almaen