Undeb Affricanaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sefydliad rhyngwladol yn cynnwys 53 gwlad yn Affrica yw'r Undeb Affricanaidd (Ffrangeg: Union africaine, a dalfyrir i UA; Saesneg: African Union a dalfyrir i AU). Sefydlwyd yr Undeb Affricanaidd ar 9 Gorffennaf 2002, fel olynydd i Gymuned Economaidd Affrica a'r Sefydliad Undod Affricanaidd. Mae ei bencadlys yn Addis Ababa, Ethiopia.

Nôd yr Undeb Affricanaidd yw cydlynu cyfandir Affrica yn wleidyddol ac yn economaidd, i hyrwyddo polisïau ar y cyd ar faterion o ddiddordeb i Affrica; i sicrhau heddwch a sefydlogrwydd ac i hyrwyddo democratiaeth, llywodraeth dda a hawliau dynol.