Oblast Kirov
Oddi ar Wicipedia
Un o oblastau Rwsia yw Oblast Kirov (Rwseg: Ки́ровская о́бласть, Kirovskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Kirov. Poblogaeth: 1,341,312 (Cyfrifiad 2010).
Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol Dosbarth Ffederal Volga. Mae'n rhannu ffin gyda Tatarstan a Gweriniaeth Mari El i'r de, Oblast Kostroma i'r gorllewin, Oblast Arkhangelsk a Gweriniaeth Komi i'r gogledd, Perm Kray i'r gogledd-ddwyrain, a Gweriniaeth Udmurt i'r de-ddwyrain.
Sefydlwyd Oblast Kirov yn 1934 yn yr Undeb Sofietaidd.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Rwseg) Gwefan swyddogol yr oblast