Antilles yr Iseldiroedd
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Libertate unanimus | |||||
Anthem: Anthem Heb Deitl | |||||
Prifddinas | Willemstad | ||||
Dinas fwyaf | Willemstad | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Iseldireg, Papiamentu, Saesneg | ||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth gyfansoddiadol | ||||
- Brenhines | Juliana (1954-1980) Beatrix (1980-2010) |
||||
- Llywodraethwr | Frits Goedgedrag (2002-2010) |
||||
- Prif Weinidog | Emily de Jongh-Elhage (2006-2010) |
||||
Rhan o Deyrnas yr Iseldiroedd |
1954–2010 | ||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
800 km² (184ain1) dibwys |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Cyfrifiad 2001 - Dwysedd |
183,000 (185ain) 175,653 229/km² (51ain) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2003 $2.45 biliwn (180ain) $11,400 (79ain) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (-) | - (-) – - | ||||
Arian cyfred | Guilder Antilles yr Iseldiroedd (ANG ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC-4) | ||||
Côd ISO y wlad | .an | ||||
Côd ffôn | +599 |
||||
1993 km² gan gynnwys Arwba |
Rhan o Deyrnas yr Iseldiroedd ym Môr y Caribî oedd Antilles yr Iseldiroedd. Cynhwysodd y diriogaeth ddau grŵp o ynysoedd: Arwba, Curaçao a Bonaire oddi ar arfordir Feneswela a Sint Eustatius, Saba a Sint Maarten (hanner deheuol ynys Saint Martin) tua 800 km i'r gogledd-ddwyrain. Willemstad, ar ynys Curaçao, oedd y brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Gadawodd Arwba Antilles yr Iseldiroedd ym 1986. Rhwng 2000 a 2005, pleidleisiodd y gweddill o'r ynysoedd i ddiddymu'r undeb. Ar 10 Hydref 2010, daeth Curaçao a Sint Maarten yn wledydd ymreolaethol tu fewn i Deyrnas yr Iseldiroedd. Daeth Bonaire, Sint Eustatius a Saba yn fwrdeistrefi arbennig o dan reolaeth uniongyrchol yr Iseldiroedd.