Croeso i Ogledd Cymru
Dyma'r ffilm-fap cyntaf un o Ogledd Cymru a gobeithio y gwnewch chi fwynhau pori drwy ein safle.
Os ydych chi'n mwynhau ffilmiau neu raglenni teledu o unrhyw fath, rydym yn teimlo'n siwr y gwelwch rywbeth o ddiddordeb ichi a bydd ein safle yn dweud wrthych ble mae'r lleoliad. Ar ben hynny mae llawer o wybodaeth a dolenni cyffredinol er mwyn ichi gael gwybod mwy fyth am y lleoliadau gorau, yn ein barn ni, yn y DU.
Anfonwch eich stori chi atom ynghylch mynd i weld un o'r lleoliadau yng Ngogledd Cymru neu ffotograffau (neu'r ddau) a byddwn yn berffaith fodlon eu gosod ar y safle. Yn yr un modd, os ydym ni wedi gadael allan unrhyw leoliadau yng Ngogledd Cymru, byddwch cystal ag anfon e-bost atom yma.
Efallai eich bod yn hoffi'r Beatles, neu'n gwylio Corrie yn selog neu'n mwynhau stori garu wych hen ffasiwn? Cewch ddewis o blith dwsinau o ffilmiau a rhaglenni teledu a gweld gwybodaeth fanwl am leoliadau ar y map rhyngweithiol.
Os ydych chi'n cofrestru ar gyfer ein newyddlen, cewch yr wybodaeth ddiweddaraf un gennym; gyda rhagflas o unrhyw blaciau ffilmiau newydd pan maent yn cael eu dadorchuddio yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cyffrous er mwyn ennill gwobrau "na allwch eu prynu".