Amdanom ni
Cafodd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ei lansio ym mis Ebrill 2000. Ein gobaith ni yw bod pobl yng Nghymru yn troi atom ni er mwyn cael cyngor a gwybodaeth dibynadwy am fwyd. Mae ein dylanwad yn ymestyn 'o'r fferm i'r fforc' - mewn geiriau eraill, o'r adeg y mae'r bwyd yn cael ei dyfu neu ei weithgynhyrchu nes iddo gyrraedd eich plât. Rydym yn eich rhoi chi, ddefnyddwyr Cymru, yn gyntaf.
‘"O'r fferm i'r fforc"’
Mae gan aelodau o staff ASB Cymru ystod eang o arbenigeddau polisi a phroffesiynol. O'n swyddfa yng nghanol Caerdydd, rydym yn gwneud gwaith amrywiol. Roedd y gwaith hwn yn arfer cael ei wneud gan staff iechyd cyhoeddus ac amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig, ond ym 1999, cafodd pwerau diogelwch a safonau bwyd eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r ASB yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac i'r Senedd drwy'r Gweinidogion Iechyd. Mae'n fantais i ni gael gweithio yng nghyd-destun datganoli gan fod hyn yn golygu ein bod ni'n gallu ystyried anghenion a materion sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, ac eto sicrhau ein bod ni'n gweithio mewn ffordd gyson â gweddill y DU. Mae hyn yn bwysig gan nad yw diogelwch bwyd, wrth gwrs, yn cydnabod ffiniau gwleidyddol na daearyddol.
Drwy werthoedd craidd yr Asiantaeth, rydym yn gwarchod defnyddwyr Cymru. Rydym yn rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf; rydym yn agored a hygyrch; ac mae gennym ni lais annibynnol. Rydym yn gwneud ein gwaith yn agored, ac rydym yn gwneud penderfyniadau mewn ffordd agored ac eglur.
Dyma feysydd gwaith allweddol yr Asiantaeth yng Nghymru:
- Diogelu defnyddwyr - trwy orfodaeth a monitro effeithiol, a gweithio'n agos ag Awdurdodau Lleol Cymru
- Lleihau salwch a gludir gan fwyd - gweithio gyda diwydiant a gorfodwyr i leihau halogiad, a chodi ymwybyddiaeth gyhoeddus o drin bwyd yn ddiogel
- Sicrhau diogelwch bwyd - er enghraifft, drwy gyfrannu at weithgarwch y DU i sicrhau nad yw cemegolion yn cyfaddawdu diogelwch bwyd, a bod camau rheoli BSE yn cael eu gorfodi'n briodol
- Cefnogi dewis i'r defnyddiwr - drwy labelu cynhyrchion yn gywir ac yn ystyrlon a thrwy roi gwybodaeth i'r cyhoedd am faterion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd, canlyniadau arolygon a gweithgarwch gorfodi.
Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Mae ein gwaith yn cael ei oruchwylio gan Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru. Sefydlwyd y Pwyllgor i roi cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth yng Nghymru. John Spence yw'r cadeirydd, yn ogystal ag aelod Cymru o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae cyfarfodydd pwyllgor agored yn cael eu cynnal bob rhyw dri mis ar hyd a lled y wlad, ac mae hyn yn enghraifft o ymrwymiad ASB Cymru i weithio'n agored. Mae gan y Pwyllgor wyth aelod arall, sy’n cynnig sylfaen gadarn o wybodaeth am faterion bwyd a materion sy’n gysylltiedig â bwyd. Mae bywgraffiadau'r holl aelodau ar y wefan hon. Cliciwch yma i ddysgu mwy am yr aelodau.
Find out more
Cysylltu â ni yng Nghymru
Am wybod mwy am ddiogelwch bwyd a llawer, llawer mwy? Dyma restr gynhwysfawr o fanylion staff yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
Dolenni: Cymru
Dolenni at wefannau sefydliadau allanol. Nid oes gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau allanol.
Ein ffordd o Weithio
Mae'r ASB yn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd a'r Llywodraeth ar ddiogelwch bwyd o'r fferm i'r fforc. Mae hefyd yn diogelu defnyddwyr drwy orfodi a monitro bwyd yn effeithiol.
Mwy am y wefan hon
Cyngor ar sut i fanteisio i’r eithaf ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan gynnwys cyngor ar osodiadau porwr a gwybodaeth am safonau hygyrchedd.
Polisi Iaith Gymraeg
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn nodi bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru baratoi Cynllun yn amlinellu sut y bydd yn darparu'r gwasanaethau hynny yn yr iaith Gymraeg. Roedd Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf yr ASB yn weithredol rhwng 2002 - 2007 ac mae'r ASB bellach wedi rhoi ei hail gynllun ar waith ar gyfer 2008 - 2012.
Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Prif rôl Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yw cynnig cyngor a gwybodaeth i’r Asiantaeth am faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau, gan gynnwys materion penodol sy’n effeithio ar Gymru.