Enillydd y Fedal Ryddiaith eleni yw Sian Melangell Dafydd o Lwyneinion,Y Bala. Cyflwynwyd y Fedal iddi mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau ddiwedd brynhawn Mercher.

Rhoddir y Fedal a’r wobr ariannol o £750 gan Gangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau. Y beirniaid yn Y Bala eleni oedd Manon Rhys, Tony Bianchi ac Elwyn Ashford Jones.

Ymgeisiodd 8 o lenorion, a chyfrol Y Mynydd Segur ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth ac fe fydd ar werth ar Faes yr Eisteddfod ac mewn siopau ar hyd a lled Cymru o heddiw ymlaen.

Ganwyd Siân Melangell Dafydd yn Nolgellau, lle treuliodd y tair blynedd gyntaf o’i hoes cyn symud i hen dŷ cipar yng nghesail Garth Goch lle y magwyd hi, prin filltir o gaeau Rhiwlas lle cynhelir yr Eisteddfod hon. Fe’i haddysgwyd yn Ysgolion Bro Tegid a Berwyn, Y Bala ond cwblhaodd ei Safon A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Graddiodd gyda gradd MA mewn Hanes Celf o Brifysgol St Andrews, yr Alban, cyn gweithio mewn orielau gwahanol o Lundain i Chianti. Treuliodd flynyddoedd braf iawn fel Rheolwr Marchnata Sgript Cymru cyn mynd yn ôl i’r coleg i gwblhau gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia (UEA), Norwich. Mae hi bellach yn gweithio’n llawrydd ac yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Pharis lle mae nofel i’w hymchwilio.

Enillodd goron lenyddol gyntaf yn Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn ym 1995, a dyfalbarhaodd i ysgrifennu ar anogaeth y beirniad, y Prifardd John Gwilym Jones. Enillodd hefyd ddwy Goron Eisteddfod Ryng-golegol (1998 a 1999)

Mae angen diolch i’w thaid, Taid Bryn, am eistedd mewn cae hefo hi pan oedd hi ond yn ferch ifanc iawn, gan drio ei orau glas i wneud yn siŵr ei bod hi’n dysgu enwau Lladin ac enwau lleol pob llafn o laswellt oddi tanni. Diolch hefyd am yr holl straeon, chwedlau a hanesion wthiodd o rhwng pob gwers.

Hoffai Siân gyflwyno’r gyfrol fuddugol i Jim Perrin, nid yn unig am ysbrydoliaeth ei grefft ond hefyd am ei anogaeth, ei sicrwydd, ei haelioni ac am hafan i gwblhau swmp o’r gwaith hwn, ym mynyddoedd y Pyrénées. Ffug enw: Mynydd Segur = cam gyfieithiad o Montségur, Ariège-Pyrénées (castell Cathare nid nepell o’r lle bu yn ysgrifennu’r rhan fwyaf o’r nofel )

Clytwaith o hanesion, straeon, chwedlau a ffeithiau yw’r gyfrol, a phob un yn cael eu defnyddio fel y gwna storïwr, er ei berwyl ei hun, i ddweud un stori. A dyna beth sy’n bwysig i George – p’un ai ydi ffaith neu stori’n cael ei defnyddio mewn lle teilwng ai peidio – mae ganddo stori i’w hadrodd: ei daith nofio fo, o darddiad y Ddyfrdwy i’r môr, a pham y cafodd ei ysgogi i wneud hynny.

Yn dilyn treulio cryn dipyn o amser yn Ffrainc yn y blynyddoedd diwethaf sylweddolodd sut mae’r mwyafrif o Départements (rhannau) Ffrainc wedi eu henwi yn ôl lleoliad ac enwau afonydd. Mae hyn yn taro naw i un sydd erioed wedi teimlo’n chwithig hefo’r cwestiwn ‘O le wyt ti’n dod?’ Hawdd yw dweud ‘O’r Bala,’ ond na, na, nid o’r Bala. Ni fu yn byw yn Y Bala. Hogan y Berwyn efallai, hogan y Ddyfrdwy: dyna sy’n teimlo’n iawn, dyna’r lle y mae yn perthyn. Ac felly, o’r syniad yna o berthyn i afon, dyma’r syniad yn codi o afon yn perthyn i berson.Edrychodd ar gysyniad Melanesaidd o berchnogaeth, sy’n bodoli drwy rannu sylwedd rhywbeth, gan fod categorïau ontolegol Melanesaidd yn wahanol. Dyma sut mae George yn ffitio’n gam yn ei fyd. Mae ei olwg o’r byd yn gwyro tuag at y math yma o ddealltwriaeth: ei gorff ef a chorff yr afon yn rhannu’r un sylwedd. Mae’r llyfr hefyd yn ffrwyth hiraeth.

Fyddai’r stori hon, na llawer iawn o straeon yn ei dychymyg, ddim wedi egino o gwbl efallai, oni bai am chwilfrydedd ei thad. Ym 1987, fe ofynnodd, ‘Beth am fynd i chwilio am deulu Pietro Crosato a Pietro Busetti fu ar ffermydd taid a nain fel carcharorion rhyfel?’ a mynd i gnocio drysau yn Pieve di Soligo a Roncade, yn yr Eidal. Agorodd hynny ddrysau ond hefyd, cafodd ei hudo gan y syniad bod pawb yn cario sach o straeon, chwit chwat, un ar ben y llall, a bod y cysylltiadau rhwng y straeon, y bobl, a’r tiroedd hynny’n rhyfeddol, ond hefyd yn bwysig.

A hithau’n hanner ffordd drwy’r wythnos, dywedodd Llywydd yr Eisteddfod, Dafydd Whittall:
“Mae safon y cystadlu eleni wedi bod yn ardderchog. Gan gyplysu hyn a’r ffaith ein bod wedi llwyddo i ddenu mwy o gystadleuwyr nac erioed o’r blaen, mae Eisteddfod 2009 yn sicr o fod yn un i’w chofio.

Gyda hanner yr wythnos eisoes wedi mynd, hoffwn ddiolch i’r rheini sydd wedi ymweld am ddod i’r Bala, ac annog eraill i alw draw yn ystod gweddill yr wythnos er mwyn cael blas o’r hyn sydd gan Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau i’w gynnig,” ychwanegodd.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn denu tua 160,000 o ymwelwyr yn flynyddol, ac fe’i chynhelir yn y gogledd a’r de bob yn ail blwyddyn. Ceir mynediad am ddim i holl weithgareddau’r Eisteddfod Genedlaethol am bris tocyn maes dyddiol.

Mae’r Eisteddfod yn derbyn grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, a rhoddodd y Llywodraeth £100,000 yn ychwanegol ar gyfer Eisteddfod Meirion a’r Cyffiniau 2009. Yn ogystal, mae’r Eisteddfod yn derbyn arian gan awdurdodau unedol Cymru drwy bartneriaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cynhelir yr Eisteddfod ar Stad Rhiwlas ger Y Bala tan 8 Awst.