English |  Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Gwasanaethau Digidol : Llif Newyddion  | fersiwn symudol  | Teledu Digidol
Cyfranogiad Cymuned 
community particiaption group

  Y Parc a'r Gymuned

 Mae anogaeth bob amser i'r gymuned fod yn gysylltiedig â Pharc Coetir y Mynydd Mawr, ac mae nifer o grwpiau a gwirfoddolwyr yn cynorthwyo yn y parc yn rheolaidd.

Mae'r grwpiau a'r gwirfoddolwyr hyn yn cynnwys ysgolion, prosiectau gan glybiau ieuenctid, gwirfoddolwyr rhyngwladol, grwpiau sgowtiaid, ac eraill yn y gymuned. 

Anogir pobl i gyfrannu at y gwaith rheoli cyffredinol yn y coetiroedd, at gynlluniau cadwraeth, at brosiectau adeiladu syml, ac at waith gwella cyffredinol yn y parcdir.

Nod hyn oll yw creu llecyn awyr agored deniadol lle gall pobl hamddena'n dawel, ynghyd ag ennyn balchder ac ymwybyddiaeth o berchenogaeth ymysg defnyddwyr y parc.

Mae'r gwaith yn y parc yn cael ei hwyluso gan y Parcmon sy'n gallu addasu'r amrywiol dasgau yn ôl anghenion y grwpiau sy'n gwneud gwaith gwirfoddol.

 Gwirfoddolwyr yn adfer llwybr       

 Disgyblion o Ysgol  Leol yn Mwynhau Pilcota mewn Pyllau

 

participation group of children
 Cyfeillion y Mynydd Mawr

Sefydlwyd Cyfeillion y Mynydd Mawr yn 2006 gan ddyrnaid o bobl flaengar a oedd am weld y gymuned yn cael mwyfwy o gyfleoedd i gyfrannu at ddatblygiad y parc. 

Mae'r Cyfeillion yn cyflwyno ceisiadau am gyllid er mwyn gallu gwireddu eu syniadau.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf maent wedi llwyddo i gael cyllid i gynnal nifer o ddigwyddiadau gyda golwg ar gael y gymuned gyfan i gyfrannu at y gweithgareddau.

Mae'r rhain yn cynnwys Ffeiriau Coed Cymunedol, Prosiect Celf Cymunedol, Gweithgareddau Calan Gaeaf Traddodiadol, Ffair Nadolig Draddodiadol, Rasys Hwyl i'r Gymuned, a Helfeydd Trysor adeg y Pasg. Mae'r holl arian a godir gan y Cyfeillion naill ai yn cael ei ddefnyddio i gynnal rhagor o ddigwyddiadau a phrosiectau, neu'n cael ei roi i elusen.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 24/8/2009