Skip to content

Ymgynghori

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau i'r rheoliadau ymsefydlu yng Nghymru

Yn y ddogfen ymgynghori hon nodir y cynigion ar gyfer y rheoliadau newydd i ymsefydlu athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru.
Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 03/04/2012
Diwedd y cyfnod ymgynghori: 29/05/2012

Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, cynigir i'r Rheoliadau newydd ddod i rym ar 1 Medi 2012.

Mynegodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ei fod yn bwriadu adolygu ymsefydlu statudol yng Nghymru ym mis Chwefror 2011.  Diben yr adolygiad hwn yw datblygu ymagwedd gadarn o ansawdd uchel sy'n gyson ar raddfa genedlaethol tuag at ymsefydlu'r holl athrawon newydd gymhwyso ar draws Cymru, a rhoi mwy o hyblygrwydd er mwyn caniatáu i athrawon llanw gwblhau eu cyfnod ymsefydlu yng Nghymru.

Mae'r adolygiad hwn o'r trefniadau ymsefydlu statudol yn gydnaws â'r gwaith ehangach sy'n cael ei gyflawni ar hyn o bryd yn rhan o ddatblygiad y model adolygu a datblygu ymarfer.  Nod y model hwn yw sicrhau bod safonau proffesiynol a datblygiad proffesiynol ymarferwyr, a'u rheolaeth ar berfformiad, yn asio i'w gilydd i greu un model cydlynus er mwyn codi safonau addysgu a gwella deilliannau dysgwyr.

Mae'r model adolygu a datblygu ymarfer yn cael ei roi ar waith yn raddol ar draws Cymru mewn cyfres o gamau.  Hyd yma, mae hyn wedi cynnwys:

  • cyflwyno safonau proffesiynol diwygiedig ym mis Medi 2011
  • cyflwyno Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 2011 ar 1 Ionawr 2012
  • cyflwyno'r cymhwyster proffesiynol cenedlaethol newydd ar gyfer prifathrawiaeth ym mis Rhagfyr 2011.

Bydd y model adolygu a datblygu ymarfer yn parhau i gael ei roi ar waith yn raddol yn ystod 2012, a bydd yn cynnwys: cyflwyniad y Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol ym mis Medi 2012; amrywiaeth o gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth i gefnogi darpar arweinwyr a phenaethiaid mewn swydd; a chreu cronfa ar-lein o adnoddau o ansawdd uchel i gynorthwyo'r holl ymarferwyr gyda'u datblygiad proffesiynol.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 29 Mai 2012 ar un or ffurfiau a ganlyn:

Ffurflen ar-lein

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i ymateb

E-bost

inductioninfo@cymru.gsi.gov.uk

Post

Y Tîm Ymsefydlu
Yr Is-adran Gwella Dysgu a Datblygiad Proffesiynol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Gwybodaeth ychwanegol

Ffôn: 029 2080 1389