World Wrestling Entertainment
Cwmni ymgodymu (reslo) yw World Wrestling Entertainment neu WWE. Y cadeirydd cyfredol yw Vince McMahon.
Mae WWE yn darlledu dwy raglen teledu pob wythnos. RAW a Smackdown. Un o brif gystadleuwyr y WWE yw Total Non-stop Action! (TNA).
Crëwyd y WWE gan Vincent McMahon Sr. o dan yr enw WWWF (World Wide Wrestling Federation). Daeth y cwmni'n enwog iawn ar ôl i Mr McMahon Jr. brynu'r cwmni gan oddi wrth ei dad. Tynnwyd yr ail 'W' allan o'r enw WWWF a newidwyd enw'r cwmni i WWF (World Wrestling Federation). Daeth yr WWF yn elynion gyda WCW (World Championship Wrestling), ond roedd WCW dechrau colli pres. Yr oedd WCW yn enwog o ddwyn ymgodymwyr cwmnioedd eraill fel Hulk Hogan, Undertaker a Sting. Dechreuodd y WWF newid ei logo a'i droi i WWF Attitude. Enillodd y WWF y Monday Night Wars pan brynodd Mr McMahon WCW. Yn 2002, bu rhaid i'r WWF newid ei enw i WWE ar ôl colli'r hawlfraint i ddefnyddio'r llythrennau i'r World Wildlife Fund. Rhwng 2006 a 2010, crëwyd ECW (Extreme Championship Wrestling) fel trydydd brand. Gellir gwylio RAW ar ddydd Llun, a Smackdown ar nos Wener.
Ymgodymwyr enwog[golygu | golygu cod y dudalen]
- Hulk Hogan (Terry Bollea)
- Stone Cold Steve Austin (Steve Williams)
- Andre The Giant (Andre Roussinoff)
- Bret 'The Hitman' Hart
- 'Macho Man' Randy Savage (Randy Poffo)
- The Undertaker (Mark Callaway)
- Triple H (Paul Levesque)
- Roddy Piper (Roderick Toombs)
- Jake 'The Snake' Roberts (Aurelian Jake Smith, Jr.)
- The Rock (Dwayne Johnson)
- Kane (Glen Jacobs)
- Randy Orton
- John Cena
Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol